Iaith fyw, iaith gwaith

rhys n9

Aelod diweddara' tîm Newyddion 9 yw Rhys Williams o Abertawe. Y llynedd enillodd Ysgoloriaeth T. Glynne Davies. Mae'r wobr ariannol yn cael ei chynnig bob blwyddyn gan S4C i helpu'r deiliad i astudio yn y Ganolfan Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yma, mae'n sôn wrth Cymru Fyw am yr her sy'n wynebu pobl o gefndiroedd di-Gymraeg ac yn annog cyflogwyr i fuddsoddi amser ac arian i hybu hyder y rheiny sydd eisiau defnyddio'r iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

"Cywilydd a siom yn fy Nghymraeg"

Oni bai am Ysgoloriaeth T. Glynne Davies, mae'n annhebyg y byddwn i'n canfod fy hun yn y sefyllfa ffodus, freintiedig yr wyf ynddi lle alla i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd. Yn wir, bu bron imi beidio cyflwyno cais o gwbl o achos diffyg hyder yn safon fy iaith.

Ges i fy magu yn Abertawe ar aelwyd ddi-Gymraeg, a bu codi safon fy iaith yn her ychwanegol yn yr ysgol felly. Ro'n i'n ffodus eto, fodd bynnag, i gael fy nhrwytho mewn awyrgylch addysgiadol wych yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

Wedi blwyddyn mewn gwaith, es i i Brifysgol Reading i astudio Hanes a dychwelyd i Abertawe dair blynedd yn ddiweddarach. Dim ond rhai diwrnodau aeth heibio, serch hynny, nes imi sylweddoli ar ddirywiad ofnadwy yn safon fy Nghymraeg, wrth i mi straffaglu i gynnal sgwrs naturiol â hen athrawes i mi ar y stryd. Teimlais gywilydd a siom.

Nes i sylwi bryd hynny pa mor hawdd yw colli iaith. Wrth gwrs, arnaf i oedd y bai yn rhannol am fethu parhau i wneud defnydd cyson o'r iaith, ond fe'm syfrdanwyd yn wir gan gyfradd y dirywiad.

Image caption Y diweddar T. Glynne Davies yn gohebu o Lyn Celyn, safle Tryweryn yn 1967

Ymarfer y Gymraeg

Pan ddechreuais ym Mhrifysgol Caerdydd felly, es ati i wella safon fy Nghymraeg unwaith yn rhagor. Ond er cymaint fy mrwdfrydedd, doedd hi ddim yn broses hawdd.

Yr unig ffordd i wella yw ymarfer yr iaith yn ddyddiol, ond gan fod rhan fwyaf o fy nheulu a'm ffrindiau yn uniaith Saesneg, bu'n rhaid imi frwydo i daro ar gyfle. Ro'n i'n lwcus iawn felly i gael fy ngwobrwyo ag Ysgoloriaeth T. Glynne Davies gan S4C, sydd yn darparu cymorth ariannol, ond hefyd profiad angenrheidiol yn y diwydiant.

Fe wnaeth y profiad yma i mi feddwl, faint o bobl ifanc eraill sy'n gadael ysgol a braidd ddim yn siarad y Gymraeg eto? Alla i enwi o leiaf dwsin o'm hen ffrindiau ysgol.

Mae'n holl bwysig bod yna lif cyson o dalent sy'n gallu bwydo anghenion gwasanaethau newyddion er mwyn cwrdd ag anghenion Cymru a phobl Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg. Sut allwn ni sicrhau bod hyn yn digwydd os yw cymaint o Gymry Cymraeg talentog yn colli'u hiaith?

Image copyright JOMEC
Image caption Mae Ysgoloriaeth T. Glynne Davies wedi rhoi sylfaen dda i nifer o newyddiadurwyr Cymraeg

Dal gafael ar yr iaith?

Wrth drafod y pwnc yma gyda fy ffrindiau, mae'n glir fod nifer ohonyn nhw yn cael eu dieithrio gan y cyfryngau Cymraeg gan eu bod nhw'n pryderu dros safon eu Cymraeg. Yr her felly yw cefnogi'r rhain sydd heb hyder yn eu hiaith, fel gwnaeth Ysgoloriaeth T. Glynne Davies fagu fy hyder i.

Yn fy marn i mae angen mwy o ymyrraeth yn gynnar i sicrhau fod pobl ifanc o deuluoedd di-Gymraeg yn cadw eu sgiliau iaith ar ôl gorffen ysgol.

Dyw hyn ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid iddyn nhw aros yng Nghymru ond mae angen meddwl am ffyrdd i gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn peryg o weld dirywiad angheuol yn safon eu Cymraeg.

Un ffordd o wneud hyn yw marchnata rhaglenni ar S4C a Radio Cymru yn benodol i bobl sy'n byw ochr arall i Glawdd Offa. Braf felly oedd gweld - er y cwymp yn y nifer oedd yn gwylio S4C yn yr arolwg diwethaf - cynnydd sylweddol yn y niferoedd oedd yn gwylio dros y ffin, yn ogystal â'r nifer yn lawrlwytho podlediadau Radio Cymru.

Image caption Mae'r dechnoleg newydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl wylio a gwrando ar wasanaethau Cymraeg

Buddsoddi amser ac arian

Mae hefyd angen ymestyn cymorth i bobl ail iaith Cymraeg ar ôl iddyn nhw orffen astudio. Am hyn, does dim amheuaeth gen i fod angen buddsoddi arian ym mhobl ifanc o deuluoedd di-Gymraeg.

Braint yw hi i gael eich magu trwy gyfrwng y Gymraeg. Braint sy'n darparu cyfleoedd ardderchog trwy gydol eich bywydau, ac yn y pen draw mae'n eich gwneud yn llawer mwy deniadol i gyflogwyr. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio felly ar y rhain sydd heb y fraint yma.

Mae angen mwy o ysgoloriaethau wedi'u targedu'n benodol ar bobl o gefndiroedd di-Gymraeg. Ond nid taflu arian at y broblem yn unig yw'r ateb chwaith.

Yn ogystal â chefnogaeth ariannol mae yna angen i gyflogwyr fod yn fwy agored yn eu parodrwydd i dreulio amser yn magu hyder pobl ifanc ail iaith Cymraeg yn safon eu hiaith. Un lwcus ydw i, sydd wedi elwa o'r union gefnogaeth yma, ond mae gormod yn cael eu colli am byth. I nifer o bobl o fy nghefndir i, iaith y dosbarth yn unig yw'r Gymraeg, ac mae rhaid newid hynny.