Cymry Caerdydd

Staff Menter Caerdydd yn Ffair Tafwyl
Image caption Staff Menter Caerdydd yn Ffair Tafwyl

Mae'n gyfnod cyffrous i'r iaith yng Nghaerdydd gyda bwriad i ddatblygu canolfan Gymraeg uchelgeisiol yn y brifddinas.

Un o bartneriaid y cynllun uchelgeisiol yw Menter Caerdydd. Mae llwyddiant Gŵyl Tafwyl wedi rhoi hwb i'r iaith Gymraeg a'r nod nawr yw adeiladu ar y seiliau hynny i helpu'r iaith Gymraeg i ffynnu.

Ond haws dweud na gwneud. Er mwyn i'r ganolfan lwyddo bydd angen cymorth ariannol Cyngor Caerdydd ar adeg pan mae pob awdurdod lleol yn wynebu toriadau llym. Yn ddiweddar hefyd mae Arweinydd y Cyngor wedi tynnu nyth cacwn i'w ben ar ôl iddo wneud sylwadau anffafriol am le'r Gymraeg yn y ddinas.

Mi gafodd Cymru Fyw air gyda Siân Lewis, Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, am yr hyder newydd y mae'r Gymraeg wedi ei hennill yn y brifddinas.

I ddechrau, sut wyt ti'n ymateb i honiad y Cynghorydd Phil Bale nad yw Caerdydd yn rhan o wead cymdeithasol Caerdydd?

Roedd y sylw wedi ei wneud yng nghyd destun y bil cynllunio yn hytrach na defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Mae'r Cynghorydd Bale yn gefnogol iawn i'r Gymraeg ac mae ganddo weledigaeth glir, ond mae dal angen unigolion a sefydliadau i lobïo a chodi ymwybyddiaeth o waith sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig fel arfer.

O'm mhrofiad i (personol a gwaith) mae cefnogaeth i'r Gymraeg yn well heddiw nag erioed.

Dwi'n meddwl bod pawb sy'n byw ac yn ymweld â'r ddinas erbyn hyn yn ymwybodol bod y Gymraeg i'w weld/chlywed fwyfwy ac yn sicr bod yr iaith yn rhan o 'ffabric cymdeithasol' y ddinas.

Image caption Mae dyfodol yr iaith yn iach yng Nghaerdydd diolch i weithgareddau fel Gŵyl Tafwyl

Mae Menter Caerdydd yn un o'r mentrau iaith fwyaf llwyddiannus, oedd 'na drobwynt neu ddigwyddiad yn hanes y Fenter oedd yn fan cychwyn i'r llwyddiant?

Y trobwynt oedd pan wnes i gydnabod mai trwy gydweithio a datblygu partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd roedd modd denu cyllid ychwanegol i gynnal gwasanaethau Cymraeg yng Nghaerdydd.

Ers i mi gychwyn gyda'r Fenter dros 10 mlynedd yn ôl rydym wedi llwyddo i greu sawl Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd er mwyn cynnal gwasanaethau Cymraeg yn y ddinas. Mae'r pecyn gyda Chyngor Caerdydd erbyn hyn yn werth oddeutu £250,000.

Wyt ti'n poeni y gallai'r cymorth ariannol grebachu o gofio'r toriadau sy'n wynebu'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd?

Mae dros 24,000 o bobl yn ymwneud â gwasanaethau Menter Caerdydd drwy gydol y flwyddyn. Os bydd toriadau i gyllid y fenter gan Gyngor Caerdydd, yn amlwg bydd yna oblygiadau i'r gwasanaethau Cymraeg sy'n cael eu cynnig i drigolion y ddinas.

Fy mwriad ydy parhau i drefnu gwasanaethau sy'n ateb y galw a sicrhau trafodaethau cyson gydag uwch swyddogion a chynghorwyr Cyngor Caerdydd er mwyn rhoi'r siawns orau i achub gwariant y Gymraeg yn y brifddinas.

Image caption Un o ddosbarthiadau ioga Menter Caerdydd

Beth yw'r uchafbwynt mwyaf i ti ers dechrau'r swydd?

Ar ôl bod yn y swydd am dros 10 mlynedd mae 'na fwy nag un i'w rhestru - Tafwyl yn amlwg. Hefyd prosiect digidol e-chlysur gafodd ei sefydlu'n gyntaf gan Fenter Caerdydd, mae hwn yn rhoi cyfle i bobl gofrestru i gael gwybodaeth am bob math o ddigwyddiadau yn y ddinas trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydan ni hefyd wedi cyhoeddi Ffônlyfr sy'n llawn o gysylltiadau i gwmnïau ac unigolion sy'n cynnig gwasanethau trwy gyfrwng y Gymraeg, a nawr mae Canolfan Yr Hen Lyfrgell sydd ar fin agor ei drysau a'r holl wasanaethau 'bara menyn' rydym wedi bod yn rhedeg dros y blynyddoedd - cynlluniau gofal, cyrsiau hamdden i oedolion, clybiau plant, digwyddiadau teuluol wythnosol...

Rwyt ti wedi dy fagu yng Nghaerdydd. Beth ydi'r newidiadau mwyaf rwyt ti wedi eu gweld o safbwynt yr iaith Gymraeg dros y degawdau diwethaf?

Newid ar yr ochr bositif, mwy o bobl yn siarad Cymraeg a mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.

Merch y ddinas ydw i, nôl yn y 70au pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd, dim ond un ysgol gynradd Gymraeg oedd yng Nghaerdydd sef Ysgol Bryntaf, ac roedd yn rhaid i'r rhan fwyaf o'r disgyblion ddal y bws i gyrraedd yr ysgol.

Erbyn heddiw mae dros 16 o ysgolion cynradd yn y ddinas.

Roedd hefyd rhaid teithio tu fas y ddinas i gael addysg uwchradd Gymraeg, erbyn heddiw mae 'na dair ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae'r twf yn sylweddol!

'Dwi wrth fy modd yn mynd mewn i siop, tŷ bwyta, tafarn, gwesty, sinema, meddygfa, optegydd a derbyn gwasanaeth Cymraeg gan nifer helaeth o staff ifanc yn eu hugeiniau. Mae'n adlewyrchu'r dyhead i weld Caerdydd yn ddinas ddwyieithog.

Image caption "Mae'r twf yn sylweddol!" Siân Lewis a datblygiad y Gymraeg yng Nghaerdydd

Mae adeilad yr Hen Lyfrgell [yn ardal Yr Ais yng nghanol y ddinas] ar fin ei droi'n ganolfan i'r Gymraeg. Gan ystyried y nifer o ddigwyddiadau a chymdeithasau yn y brifddinas, oes angen un?

Cwestiwn twp i ofyn i brif bartner y prosiect cyffrous hwn! WRTH GWRS fod angen Canolfan i'r Gymraeg. Nid yn unig i gynnig gwasanaethau Cymraeg cyfoes ond i godi ymwybyddiaeth i'r di-Gymraeg a thwristiaid fod y Gymraeg yn iaith ddeinamig sy'n tyfu.

Mae'r Gymraeg yn fyw ar draws nifer o gymunedau yng Nghaerdydd ond mae'r angen yna i godi proffil y Gymraeg ynghanol y brifddinas, a lle gwell nag adeilad yr Hen Lyfrgell yn Yr Ais?

Oes 'na un newid sylfaenol, ymarferol, fyddai'n gallu codi statws y Gymraeg yng Nghaerdydd i'r lefel nesaf?

Gwersi Cymraeg dyddiol i bob plentyn mewn addysg yng Nghaerdydd o 4 i bymtheg oed, a chynyddu'r buddsoddiad ariannol er mwyn sicrhau gwasanaethau cymdeithasol ym mhob cymuned yn y ddinas.

Byddai gwneud hyn yn gwneud y Gymraeg yn iaith fyw 'go iawn' i'r miloedd o blant sy'n cael addysg Gymraeg, ond yn dod o gefndiroedd di-Gymraeg, ac yn cynnig mwy o gyfleon i gael defnyddio'r Gymraeg tu allan i oriau ysgol.

Image caption Yr Hen Lyfrgell

Straeon perthnasol