S4C yn 'gwireddu addewid' gyda dramâu

S4C
Image caption Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C

Mae S4C wedi gwireddu addewid i gynyddu'r oriau o ddrama sydd yn yr amserlen, yn ôl cyfarwyddwr cynnwys y sianel.

Wrth lansio rhaglenni'r hydref, dywedodd Dafydd Rhys iddi gymryd dwy flynedd i'r strategaeth ddwyn ffrwyth.

Fe fydd ail gyfres o 'Y Gwyll' yn dychwelyd i S4C ddydd Sul ac mae cyfresi newydd o ddramâu '35 Diwrnod' a 'Lan a Lawr' ar y gweill.

Dywedodd Dafydd Rhys mai "dyma'r tymor lle ry'n ni yn gwireddu'r hyn ddwedon ni ddwy flynedd yn ôl am ddod â mwy o ddrama wreiddiol i'r sgrin."

Ychwanegodd bod drama yn yr iaith Gymraeg "yn rhywbeth pwysig iawn, i ni fel sianel, i gyflawni. Ac mae hefyd yn faes lle mae'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi'r cynnyrch."

Image copyright S4C
Image caption Bydd S4C yn dangos nifer o ddramâu newydd dros y misoedd nesaf

Dramâu newydd

Yn y misoedd nesaf fe fydd dramâu newydd 'Dim Ond y Gwir', sy'n dilyn gweithwyr mewn llys, a 'Byw Celwydd', sy' wedi'i lleoli yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn cyrraedd y sgrin.

Mae llwyddiant dramâu o safon ar wasanaethau ar-alw fel Netflix wedi codi disgwyliadau gwylwyr, yn ôl Dafydd Rhys.

"Mae'r adran ddadansoddi yn gwneud gwaith i weld beth mae'r gynulleidfa yng Nghymru, a'r Cymry Cymraeg yn arbennig, yn gwylio ar sianeli eraill. Mae hwnna yn rhoi awgrym i ni am y meysydd y dylwn ni ymwneud â nhw fwy," meddai.

Erbyn hyn mae drama 'Y Gwyll/Hinterland' wedi'i gwerthu i 26 o wledydd ac i wasanaeth Netflix, ac mae S4C yn ystyried cynhyrchu dramâu tebyg yn y dyfodol.

"Mae'r pwyslais dros y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod fwy ar y genre thriller, ac mae 'Y Gwyll' a '35 Diwrnod' yn rhan o hwnnw.

"Ond hefyd fe fydd 'na bwyslais ar ddatblygu dramâu ysgafn er mwyn sicrhau fod 'na fwy o ddeunydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac mae pobl jyst yn cael eistedd lawr, chwerthin, a mwynhau."

Image caption Dafydd Rhys yn lansio rhaglenni'r hydref ar S4C yng Nghanolfan Chapter