£63.2m: URC yn cyhoeddi trosiant uchaf erioed

Stadiwm y Mileniwm Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru drosiant o £64.2m y flwyddyn ddiwethaf, yr uchaf erioed, yn ôl adroddiad blynyddol.

Mae'n gynnydd o £3m ar ffigwr y llynedd o £61m.

Yn ôl yr Undeb, cafodd £22.6m ei fuddsoddi i mewn i'r gêm ar draws bob lefel, gan gynnwys £4m i'r gêm ar lefel gymunedol, £1.4m i'r Uwch Gynghrair ac £17.2m i rygbi rhanbarthol.

Daw'r cyhoeddiad ddyddiau cyn i gystadleuaeth Cwpan y Byd, fydd yn gweld sawl gêm yn cael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Image copyright Getty Images
Image caption Yn ei adroddiad olaf cyn gadael y swydd, dywedodd Roger Lewis ei fod yn falch gyda'r gwaith yr oedd wedi ei wneud

Yn ei adroddiad olaf fel prif weithredwr cyn gadael y swydd, dywedodd Roger Lewis ei fod yn "falch iawn" cyhoeddi bod y sefyllfa ariannol yn gryf cyn gadael y swydd.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi profi unwaith eto bod ein llwyddiant yn deillio o gynllunio manwl gyda strategaeth glir a ffocws ac ymrwymiad i sicrhau llwyddiant," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r berthynas newydd gyda'r rhanbarthau a chytundebau canolog deuol am y tro cyntaf yn ein hanes yn dangos bod rygbi Cymru yn canolbwyntio ar greu llwyddiant sylweddol a hir-dymor ar bob lefel."

Straeon perthnasol