Gyrrwr fan yn euog o achosi marwolaeth merch 18 oed

Kevin Rose Image copyright Daily Post
Image caption Kevin Rose tu allan i'r llys

Mae dyn 57 oed o Guilford yn Surrey wedi ei gael yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal yn Sir Ddinbych.

Roedd cerbyd Kevin Rose mewn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Corsa cyn gyrru ar bafin ym Modelwyddan ym mis Tachwedd 2013.

Fe darodd Lucy Brown, 18, o Brestatyn, oedd yn cerdded ar hyd y llwybr troed, a bu hi farw'n syth.

Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon fod Rose yn ddi-euog o gyhuddiad arall o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod adroddiadau'n cael eu paratoi.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn ddiweddarach yn yr hydref.

Image copyright Facebook
Image caption Clywodd y llys y byddai Lucy Brown wedi marw'n syth yn ystod y gwrthdrawiad

Straeon perthnasol