Arweinyddiaeth: Pennod newydd i Lafur?

Wrth i ni ddisgwyl clywed ddydd Sadwrn pwy fydd arweinydd newydd y blaid Lafur, Syr Deian Hopkin sy'n bwrw golwg dros y ras am y swydd, a'r goblygiadau i'r blaid Lafur ac i Gymru.

Jeremy Corbyn, Andy Burnham, Liz Kendall ac Yvette Cooper
Image caption Jeremy Corbyn, Andy Burnham, Liz Kendall ac Yvette Cooper sy'n ceisio dod yn arweinydd

Dyrchafiad Jeremy Corbyn yw pwnc y dydd, beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad am arweinydd newydd Llafur ddydd Sadwrn.

O fewn deufis trawsnewidiwyd rebel anhysbys yn rhyw fath o arwr poblogaidd.

Nid gwleidydd ystrydebol mohono ond gŵr annibynol ac annisgybledig, a bleidleisiodd dros 500 o weithiau yn erbyn ei blaid ei hyn. Heb ronyn o dystiolaeth yn ei erbyn dros dreuliau, a heb eiliad o brofiad mewn llywodraeth, mae ganddo record lan sy'n apelio at gynifer o bobl a ddadrithwyd gan wleidyddiaeth.

A rhywsut mae ei syniadau radical wedi taro tant a chreu geirfa newydd; Corbynomics, Corbynistas. Hen ideoleg efallai, ond mewn gwisg fodern.

Un peth o blaid Corbyn, wrth gwrs, yw diffyg llwyddiant ei gyd-ymgeiswyr. Methodd y tri arall - Burnham, Kendall a Cooper - i gyffroi'r dyfroedd.

I gymharu, mae Corbyn yn ymddangos yn ddyn o argyhoeddiad a chysondeb, pa mor ymarferol bynnag mae rhai o'i syniadau. Cofier fod 34% o'r etholwyr wedi aros adref fis Mai diwethaf a gadael i David Cameron ennill gyda chefnogaeth llai na chwarter o'r etholwyr.

I'r gweddill, efallai, mae neges Corbyn yn ffres ac mae torri'r mowld yn gynhyrfus.

Llafur yn rhuthro

Hunllef oedd yr etholiad fis Mai i Lafur, er i'r bleidlais ddal tir yn Lloegr a Chymru. Gan fod y golled yn annisgwyl rhuthrodd y Blaid i ethol arweinydd arall a chreu rheolau ethol newydd sydd wedi chwarae i ddwylo y rhai sydd am newid y Blaid yn llwyr - Corbyn oedd yr unig ymgeisydd i greu linc yn ei wefan efo'r ffurflen gais 'rhan-aelodaeth' am dair punt.

Ef, hefyd, a ddefnyddiodd orau y cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad gellir rhagweld ethol arweinydd amhrofiadol a lletchwith gan bobl heb fawr o gysylltiad â'r blaid ei hun.

Os oedd mis Mai yn hunllef, mae gwaeth i ddod! Mae yna berygl i'r blaid pwy bynnag fydd yn arwain.

Os daw buddugoliaeth i Corbyn, anodd gweld sut gall nifer o'r aelodau blaenllaw wasanaethu iddo, gymaint oedd y chwerwder a'r elyniaeth yn ystod yr ymgyrch. Ac mi fydd yna frwydr enfawr dros y cyfansoddiad, sut i ethol aelodau y cabinet cysgodol ac yn blaen; ail-adrodd brwydrau'r 80au?

Ar y llaw arall petai'n colli, beth fyddai ymateb ei gefnogwyr brwdfrydig, ifanc, yng nghanol eu siom a'u haniddigrwydd? A fyddan nhw'n diflannu neu aros i greu llanast yn yr etholaethau pan fydd y ffiniau etholiadol yn newid ac aelodau seneddol yn wynebu eu hail-ddewis?

Dau feddwl yng Nghymru

Mae hyn yn berthnasol i Gymru, ag etholiad y Cynulliad ymhen naw mis. Er bod o leiaf pum Aelod Cynulliad Llafur yn cefnogi Jeremy Corbyn, lleiafrif ydynt ymhlith arweinwyr a chynrychiolwyr y blaid.

Ar y llaw arall, does dim cytundeb ymhlith y gweddill dros yr arweinyddiaeth. Ymhlith aelodau lleol Llafur, ymddengys fod cefnogaeth Corbyn yn gryfach. Dyma blaid mewn dau feddwl.

Ond ydy ethol arweinydd yn Llundain yn gwneud unrhyw wahaniaeth i Gymru? Gellir dadlau fod Cymru nawr ar drywydd gwahanol a dyfarniad ar record Llafur yn y Bae sydd bwysicach nag unrhyw beth yn ymwneud â San Steffan.

Dylanwad Llundain

Wrth gwrs, mae dylanwad Llundain yn dal, a phetai Llafur yn llithro i'r chwith, rhagwelir llawer o etholwyr dosbarth canol yn troi fwy-fwy at y Ceidwadwyr.

Ar y llaw arall, byddai symud o'r fath yn sialens i Blaid Cymru sydd wedi elwa o'u cymwysterau asgell-chwith? A beth am y torfeydd, gan gynnwys nifer o bobl, ifanc a hen, sydd wedi dilyn ymgyrch Corbyn ar draws y wlad? Oes yma etholaeth newydd annisgwyl?

Mae'n ddiddorol nad yw'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beirniadu Jeremy Corbyn yn gyhoeddus fel mae un neu ddau o'i weinidogion a'i ragflaenydd Rhodri Morgan wedi gwneud, ac ymddengys fod ei safbwynt ar gwtogi cyllid ac ar amryw o bynciau eraill yn eitha agos at Corbyn.

Nid yw hyn yn golygu y byddai Carwyn Jones yn croesawu ei fuddugoliaeth, ond mae'r Prif Weinidog wedi dangos eisoes ei fod yn wleidydd ymarferol, pragmatig ac yn sicr fe fydd yn ymdrechu i gydweithio a phwy bynnag fydd yn arwain yn Llundain ond, ar yr un pryd, yn datgan ei annibyniaeth.

Image copyright Twitter
Image caption Mae Syr Deian Hopkin wedi cyhoeddi sawl cyfrol am hanes y blaid Lafur

Pennod newydd

A ydym felly ar drothwy pennod newydd yn hanes Llafur yng Nghymru a'r posibilrwydd o greu Plaid Lafur Gymraeg er mwyn ymbellhau o'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, fel mae rhai wedi annog yn yr Alban?

Os hynny, byddai ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd yn prysuro'r broses.

Ganrif ar ôl marwolaeth Keir Hardie, arweinydd arloesol y Blaid Lafur, ymddengys fod y blaid yn wynebu dyfodol mwy anrhagweladwy ag erioed.

Pwy sy'n dweud fod gwleidyddiaeth yn ddiflas?

Mae Syr Deian Hopkin yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gyn Is-Ganghellor Prifysgol South Bank yn Llundain. Mae'n aelod o gynghorau Prifysgol Essex a Sefydliad City and Guilds Llundain ac o'r 'Campaign for Learning'. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau ac erthyglau am hanes y blaid Lafur.

Hefyd ar y BBC