Cymru i gyrraedd rhif 8 ar restr FIFA

Gareth Bale celebrates with Wales' coaches Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewyr a thîm hyfforddi Cymru yn dathlu gôl Gareth Bale yn erbyn Cyprus

Mae disgwyl y bydd tîm pêl-droed Cymru yn codi i safle rhif wyth yn y byd pan fydd FIFA yn rhyddhau manylion eu tabl detholion diweddara ar 1 Hydref.

Ar ôl curo Cyprus a chael gêm gyfartal yn erbyn Israel mae tîm Chris Coleman o fewn trwch blewyn i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016.

Fe fydd Cymru yn codi uwchben Chile yn y rhestr detholion nesaf, gyda Chile yn gostwng i safle rhif 9 yn y byd, a Lloegr yn aros yn rhif 10.

Pe bai Cymru wedi curo Israel fe fyddant wedi codi i rif 4 yn y byd.

Yr Ariannin sy'n parhau ar frig y rhestr, gyda'r Almaen yn symud i'r ail safle, gan ddisodli Gwlad Belg, sy'n gostwng i'r trydydd safle.

Image copyright Fifa
Image caption Dyma'r ffigyrau diweddara o'r fformiwla mae FIFA yn ei ddefnyddio i benderfynu safle detholion