Key yn sgorio 117 i Gaint yn eu hail fatiad

Rob Key Image copyright Getty Images

Mae ail ddiwrnod y gêm bencampwriaeth yn erbyn Caint wedi dod i ben yng Nghaerdydd gyda Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion.

Mae'r ymwelwyr wedi sgorio 256-1 yn eu hail fatiad i ychwanegu at y 309 o'r batiad cyntaf.

Sgoriodd Rob Key 117 hfa yn yr ail fatiad.

Felly maen nhw ar y blaen o 357 o rediadau gyda naw wiced a dau ddiwrnod yn weddill.