Ffrind Bob Cole o Flaenau Ffestiniog o blaid cymorth i farw

Bob Cole Image copyright LORENTZ GULLACHSE
Image caption Aeth Bob Cole i glinig Dignitas yn Y Swistir ym mis Awst

Mae ffrind dyn o Flaenau Ffestiniog aeth i glinig yn y Swistir er mwyn dod â'i fywyd i ben wedi dweud ei fod o blaid creu Deddf Cymorth i Farw.

Bu farw Bob Cole, 68 oed, yng nghlinig Dignitas yn Zurich ym mis Awst, ble bu farw ei wraig yn 2014.

Mae Pryderi ap Rhisiart wedi dweud y dylai rhai sy'n dioddef ddewis pryd i farw.

Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Gwener mae Aelodau Seneddol yn paratoi cyn trafod Mesur Cymorth i Farw.

Roedd yr Arglwydd Falconer wedi cynnig mesur tebyg yn sesiwn ddiwetha'r Senedd ond doedd dim digon o amser i'w drafod.

Yn ôl y ddeddf bresennol, mae unigolyn sy'n rhoi cymorth neu'n annog hunanladdiad neu ymgais ar hunanladdiad yn gallu wynebu cyfnod o garchar am hyd at 14 o flynyddoedd.

'Byd o wahaniaeth'

Dywedodd Mr ap Rhisiart: "Mi fyddai'n well pe bai Bob wedi marw yn ei gartre ei hun, yn ei wely ei hun gyda'i deulu a'i ffrindiau ... mi fyddai hynny wedi gwneud byd o wahaniaeth."

Mae AS Canol Caerdydd Jo Stevens wedi dweud ei bod o blaid y mesur. "Nid mater o orfodi yw hyn ond caniatáu i bobl gael dewis," meddai.

Ond dywedodd AS Maldwyn Glyn Davies y byddai'n pleidleisio yn erbyn y mesur oherwydd gallai arwain at "normaleiddio" hunanladdiad.

Mae'r Farwnes Ilora Finlay, cyn ymgynghorydd Llywodraeth Cymru, wedi honni y gallai'r mesur "fod yn rhy beryglus".

"Dwi wedi gweld pobl mewn anobaith llwyr cyn gwella," meddai.

"Mae'n bosib y bydd rhai anabl yn teimlo bod pwysau arnyn nhw i ddod â'u bywyd i ben."

'Rheolau cadarn'

Serch hynny, dywedodd Antony Lempert, meddyg teulu o Drefyclo ym Mhowys, fod angen deddf.

"Mi ddylai'r rhai sy'n diodde'n fawr heb obaith o ryddhad gael yr hawl i reoli sut a phryd y byddan nhw'n marw.

"Ond mae hyn ar yr amod bod rheolau cadarn.

"Os yw'r ddeddf yn cael ei phasio bydd dau feddyg annibynnol a barnwr yr Uchel Lys yn sicrhau bod yr hyn sy'n digwydd yn unol â meini prawf."