Saith Diwrnod

Prentisiaethau
Image caption Un o bob pedwar prentis yn dod o Wlad Pwyl, ond ydyn nhw'n cael chwarae teg?

Arwel 'Rocet' Jones sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei adolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Persbectif. Dyna ydy o. Mae'n dibynnu'n hollol ar ba ochr i'r ffens ydach chi'n sefyll.

Mae Lyn Ebenezer yn ei golofn yn Y Cymro yn dyfynnu'r cyfansoddwr Tom Russell: 'Who's gonna build your wall boys?'

Mae o'n poeni bod y nifer sydd yn gwneud prentisiaeth i lawr i 450,000, pum gwaith yn llai na'r nifer sy'n graddio, a bod 116,000 o'r prentisiaid hynny'n dod o Wlad Pwyl.

Dyw Lyn ddim yn poeni mai Pwyliaid ydyn nhw - hebddyn nhw byddai'r sector adeiladu ar ei thin, chwedl yntau.

Ond os ydy'r adeiladwyr Pwylaidd ar y naill ochr i'r wal - mae Lyn yn gorffen drwy ofyn i Gyngor Gwynedd, pobl o le fydd yn byw ar yr ochr arall i'r wal pan fydd y tŷ wedi ei orffen?

Image caption Ydy £180 yn ormodol i dreulio penwythnos yng Ngŵyl Rhif 6

Yn ystod y dyddiau diwethaf hyn fe drodd yr argyfwng mewnfudwyr yn argyfwng y ffoaduriaid. Mae hyn yn destun i Bethan Gwanas yn yr Herald ac yn fwyaf arbennig i Dylan Iorwerth yn Golwg.

Mae o'n son am sut mae'r newyddiadurwyr a'r gwleidyddion sydd wedi troi dros nos, o weld un llun trawiadol o dorcalonnus, o fod ar y naill ochr i'r wal i fod ar y llall - o drafod creisis mewnfudo i drafod argyfwng dyngarol.

Mewn trafodaeth ddiddorol yn Golwg mae dau o Gymry Eifionydd ar ddwy ochr i'r un wal. Ar y naill ochr mae Seimon Brooks. Mae o eisiau mynd i Ŵyl Rhif 6 ond yn methu fforddio'r £180 i dreulio penwythnos yn yr hyn mae o'n weld fel gŵyl Gymraeg. Mae hyn, yn ei dyb o, yn aparteit economaidd. Ac mae o'n gorfod bodloni ar wylio'r Ŵyl o lethrau pell Porth y Gest.

Ar y llaw arall mae Robin Llywelyn yn dadlau nad yw Gŵyl Rhif 6 wedi ei sefydlu fel gŵyl Gymraeg ond yn hytrach bod y dwyieithrwydd a'r bandiau Cymraeg yn fodd o roi parch i'r Gymraeg mewn gŵyl sydd yn ei hanfod yn ŵyl dwristaidd Saesneg ond sydd yn rhoi gwaith ac incwm i bobl a busnesau lleol. Ac mae'n atgoffa Seimon y gallai fod wedi cael tocyn am £120 fel hogyn lleol.

Yn ogystal mae Robin yn amau honiad Seimon bod modd gweld Portmeirion o Borth y Gest heb dorri'r Gwyllt a rhoi rhych ddofn yng nghreigiau Trwyn y Penrhyn.

Mae tipyn o wal rhwng y ddau ddywedwn i.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Stadiwm y Mileniwm ynteu Stadiwm y Principality?

Tipyn o wal ydy Clawdd Offa hefyd. Ac mae'n rhyfedd cael barn Deian Hopkin ar Cymru Fyw ar effaith y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar Gymru. Pan mae dyn sydd wedi byw yn Essex ers degawdau'n cyfeirio at 'dros y ffin' mae'n anodd gwybod i ba gyfeiriad mae o'n edrych.

A'i gasgliad ydy bod rhaid canmol pragmatiaeth Carwyn Jones am eistedd ar y ffens nes daw canlyniad yr etholiad fory. Onid ydy o wedi gweld mai adwaith i'r math yma o bragmatiaeth ddi-liw sydd wrth wraidd hoffter pobl o Corbyn?

Ar y ffens mae Emyr Wyn ar Cymru Fyw hefyd. Ond mae o'n cyfaddef hynny ac mae rhywun yn gallu teimlo i'r byw pa mor anghyfforddus ydy o yn eistedd yno.

Poeni mae o am ailenwi Stadiwm y Mileniwm yn Stadiwm y Principality. Mae'r gair a'r cysyniad yn atgas ganddo fel Cymro twymgalon. Ond mae o hefyd yn gweld y lles y gall buddsoddiad o £15m ei wneud i'r gêm sydd mor agos at ei galon. Ond gan nad oes gen i fawr o ddiddordeb mewn rygbi dwi'n gwybod yn union ar ba ochr i'r ffens dwi'n sefyll yn yr achos yma.

Un na allwch chi byth ei chyhuddo hi o eistedd ar y ffens ydy Angharad Tomos. Ond o'r holl bethau dadleuol mae hi wedi eu trin a'u trafod yn ei cholofn yn yr Herald dros y blynyddoedd does yr un yn debyg i'w hymgyrch ddiweddaraf.

Mae hi'n flin bod dynion Cyngor Gwynedd yn torri'r cloddiau ym mis Medi pan fo holl wragedd y sir allan yn pigo mwyaf duon i wneud teisennau i'w gwŷr, ac os nad ydyn nhw'n pigo mwyar duon maen nhw allan yn siopa bwyd. Hir oes i Ymgyrch Mwyar Medi ac i dduwiesau domestig Dyffryn Nantlle.