Cerddorion Cymru'n uno i helpu ffoaduriaid

Manic Street Preachers, Cerys Matthews, Super Furry Animals a Stereophonics
Image caption Mae'r Manic Street Preachers, Cerys Matthews, Super Furry Animals a Stereophonics wedi cyfrannu caneuon i'r albwm

Mae rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru wedi rhyddhau albwm gyda'i gilydd i godi arian ar gyfer elusen ffoaduriaid.

Mae artistiaid yn cynnwys y Super Furry Animals, Cerys Matthews, Manic Street Preachers a Stereophonics wedi cyfrannu caneuon i'r albwm 30-trac 'Reach Out'.

Y newyddiadurwr, David Owens, sy'n gyfrifol am y cynllun, a bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd i elusen Refugee Action.

"Ro'n i un un o'r bobl wnaeth grio yn edrych ar y lluniau torcalonnus," meddai.

"Fel tad, ro'n yn torri fy nghalon. Ro'n i eisiau gwneud rhywbeth ond fel nifer, yn teimlo'n ddi-bŵer."

"Alla i ddim diolch digon i'r holl artistiaid sydd wedi cytuno i gyfrannu traciau."