Gwrthod Mesur Cymorth i Farw

Mesur Image copyright Thinkstock

Mae aelodau seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio yn erbyn y Mesur Cymorth i Farw, fyddai wedi galluogi pobl yng Nghymru a Lloegr i ddod â'u bywydau i ben pan nad oedd gwellhâd mewn achosion o waeledd terfynol.

Cafodd y mesur ei wrthod o 330 pleidlais i 118 ddydd Gwener. Roedd yr Arglwydd Falconer wedi cynnig mesur tebyg yn sesiwn ddiwetha'r Senedd ond doedd dim digon o amser i'w drafod.

Roedd y mater wedi rhannu barn aelodau Cymreig gyda Paul Flynn (Llafur) ymhlith y rhai fu'n siarad o blaid y mesur a'r Ceidwadwr Glyn Davies yn erbyn.

"Ymateb chwyrn"

Dywedodd Mr Flynn wrth BBC Cymru yn dilyn y bleidlais fod aelodau seneddol ddim mewn cyswllt gyda barn gyhoeddus ar y mater, gan honni fod 80% o'r cyhoedd o blaid y syniad.

"Fe fydd 'na ymateb chwyrn am hyn gan y cyhoedd, gan nad ydi'r penderfyniad yn adlewyrchu barn dros 80% o bobl sydd am gael rhyw fath o ddewis dros amser a natur eu marwolaeth", meddai.

"Os ydych yn gyfoethog fe allwch fynd i'r Swistir i wneud y trefniadau pwrpasol, ond os nad ydych chi, mae hyn wedi ei wadu i chi."

"Peryglus"

Ond dywedodd y Farwnes Finlay o Landaf, arbenigwraig ar ofal lliniarol, fod aelodau seneddol "wedi penderfynu'n benderfynol fod hyn yn beryglus ac wedi ei daflu allan".

"Y broblem i'r cyhoedd yw bod penawdau niferus wedi eu bwydo iddyn nhw - mae'n iawn fod y mesur wedi ei wrthod mor bendant."

Fe wnaeth cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yr Arglwydd Carlisle, cyd-gadeirydd y sefydliad 'Living and Dying Well', ddweud ei fod yn benderfyniad oedd i'w groesawu.

Image copyright LORENTZ GULLACHSE
Image caption Aeth Bob Cole i glinig Dignitas yn Y Swistir ym mis Awst

Dignitas

Roedd ffrind dyn o Flaenau Ffestiniog aeth i glinig yn y Swistir er mwyn dod â'i fywyd i ben wedi dweud ei fod o blaid y mesur.

Bu farw Bob Cole, 68 oed, yng nghlinig Dignitas yn Zurich ym mis Awst, ble bu farw ei wraig yn 2014. Mae Pryderi ap Rhisiart wedi dweud y dylai rhai sy'n dioddef ddewis pryd i farw.

Dyma'r tro cyntaf mewn 20 mlynedd i aelodau seneddol bleidleisio ar y mater.

Yn ôl y ddeddf bresennol, mae unigolyn sy'n rhoi cymorth neu'n annog hunanladdiad neu ymgais ar hunanladdiad yn gallu wynebu cyfnod o garchar am hyd at 14 o flynyddoedd.

Mae mesurau tebyg wedi methu ag ennill sel-bendith aelodau seneddol yn y gorffenol.

O dan y Mesur Cymorth i Farw, fe fyddai pobl oedd gyda llai na chwe mis i fyw wedi cael derbyn cyffuriau marwol i'w cymryd eu hunain. Byddai dau feddyg a barnwr Uchel Lys wedi gorfod rhoi caniatad ymhob achos.

Nid oedd y Prif Weinidog David Cameron yn bresennol yn ystod y ddadl, ond fe ddywedodd llefarydd:

"Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud ei farn yn glir ar y mater yn y gorffenol - dyw e ddim wedi ei argyhoeddi fod angen cymryd camau pellach ac nid yw o blaid agwedd fyddai'n dod â ni'n agosach at ewthanasia."

Straeon perthnasol