Watford 1 - 0 Abertawe

Watford Image copyright Getty Images

Colli oedd hanes yr Elyrch yn eu gêm oddi cartref yn erbyn Watford yn Vicarage Road brynhawn Sadwrn yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Llwyddodd Odion Ighalo i rwydo i'r tîm cartref wedi 59 o funudau gyda chic o ganol y cwrt cosbi. Bum munud yn ddiweddarach roedd Watford i lawr i ddeg dyn ar ôl i Valon Behrami gael cerdyn coch am ymddygiad treisgar, ond fe fethodd yr Elyrch a manteisio ar y sefyllfa yn ystod gweddill y gêm wrth i amddiffyn Watford rwystro eu hymdrechion.

Fe welodd chwaraewr Abertawe Ki Sung-yueng gerdyn melyn am dacl wael wedi 66 o funudau, ac fe fydd Gary Monk a'i chwaraewyr yn siomedig gyda'r canlyniad ar ôl Abertawe gael dechrau mor addawol i'r tymor.