Caerdydd 2 - 0 Huddersfield

Caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd Gaerdydd fuddugoliaeth yn erbyn Huddersfield o 2-0 yn eu gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan barhau gyda'u rhediad o gemau heb golli ers dechrau'r tymor.

Daeth cyfleoedd cynnar i Kenwyne Jones a Joe Mason ond fe ddaeth yr hanner cyntaf i ben y ddi-sgôr.

Gydag ugain munud o'r gêm yn weddill fe ddaeth y gôl gyntaf i'r Adar Gleision drwy gyffyrddiad celfydd Anthony Pilkington.

Joe Mason sgoriodd yr ail gôl i'r tîm cartref gan ddyrchafu Caerdydd i'r ail safle yn y bencampwriaeth.