Pro12: Scarlets 22-12 Ulster

Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Scarlets i oroesi a sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Ulster o 22-12 ar Barc y Scarlets er bod tri o'u chwaraewyr wedi cael eu hanfon i'r cwrt cosbi am yr ail wythnos o'r bron.

Fe welodd Pete Edwards, John Barclay a George Earle gerdyn melyn, ond fe lwyddodd y Scarlets i gadw rheolaeth o'r gêm ar y cyfan.

Ciciodd Dan Jones 17 o bwyntiau, gyda Hadleigh Parkes yn sgorio cais.

Fe wnaeth Ulster fygwth ymladd yn ôl am gyfnod wedi i Rory Scholes groesi'r llinell gais a hawlio cais cosb, ond fe fethodd yr ymwelwyr a sicrhau pwynt bonws yn y pen draw.