Rygbi Pro12: Gweilch 18 - 20 Munster

Gweilch Image copyright Huw Evans picture agency

Colli o drwch blewyn oedd hanes y Gweilch yn eu gêm Pro12 yn erbyn Munster yn Stadiwm y Liberty brynhawn Sul.

Llwyddodd y Gwyddelod i gipio buddugoliaeth yn hwyr yn y gêm wedi cais CJ Stander. Croesodd y llinell gais ar ôl nifer o hyrddiadau yn erbyn llinell amddiffynol y Gweilch gan yr ymwelwyr.

Roedd Munster wedi croesi llinell gais y Gweilch yn gynharach trwy ymdrechion Stephen Fitzgerald, ac roedd ciciau wedi eu trosi gan Tyler Bleyendaal ag Ian Keatley, a dwy gic gosb gan Bleyendaal yn ddigon i wasgu buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Hon oedd gêm gartref gyntaf y tymor i'r Gweilch, a chyn y gic gyntaf fe roddwyd teyrnged i'w cyn-chwaraewr Jerry Collins o Seland Newydd, fu farw mewn gwrthdrawiad car yn Ffrainc ym mis Mehefin.

Yn ogystal â chynnal munud o dawelwch, cafodd rhif y crys yr oedd Jerry Collins yn ei ddefnyddio gan amlaf i'r clwb - crys rhif chwech - ei roi o'r neilltu am y gêm fel arwydd o barch. Gwisgodd Joe Bearman o'r Gweilch grys heb rif arno yn ystod y gêm.

Gweilch: Dan Evans; Kristian Phillips, Jonathan Spratt, Owen Watkin, Hanno Dirksen; Sam Davies, Brendon Leonard; Nicky Smith, Sam Parry, Dmitri Arhip, Lloyd Ashley (capten), Rory Thornton, Joe Bearman, Sam Underhill, Dan Baker.

Ar y fainc: Scott Otten, Marc Thomas, Cai Griffiths, De Kock Steenkamp, Olly Cracknell, Tom Habberfield, Aled Jenkins, Richard Fussell.

Munster: Felix Jones (capten); Andrew Conway, Francis Saili, Rory Scannell, Stephen Fitzgerald; Tyler Bleyendaal, Cathal Sheridan; Dave Kilcoyne, Mike Sherry, Stephen Archer; Mark Chisholm, Dave Foley; Dave O'Callaghan, Jack O'Donoghue, Robin Copeland.

Ar y fainc: Duncan Casey, James Cronin, BJ Botha, Jordan Coghlan, CJ Stander, Duncan Williams, Ian Keatley, David Johnston.

Dyfarnwr: Dudley Philips (IRFU)