Doull yn dathlu canlyniad gwych

Edvald Boasson Hagen Image copyright Tour of Britain
Image caption Edvald Boasson Hagen (melyn) yn dathlu gydag Owain Doull (chwith) a Wouter Poels (dde) ar ddiwedd y ras

Mae'r seiclwr Owain Doull wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth wedi'r ras orau yn ei yrfa dros yr wythnos ddiwethaf.

Gorffennodd y Cymro yn drydydd yn ras y Tour of Britain, ac ef hefyd enillodd y siwmper am y ras bwyntiau dros yr wythnos wedi iddo orffen cyfres o gymalau yn y deg uchaf.

Yn y cymal olaf trwy ganol Llundain ddydd Sul, gorffennodd Doull yn ddegfed y tu ôl i Elia Vivani o Team Sky, ond roedd yr amser yn ddigon da i'r seiclwr o Team Wiggins gyrraedd y trydydd safle yn y ras gyfan.

Edvald Boasson-Hagen o dîm MTN-Qhubeka - a gynt o Team Sky - oedd yn gwisgo'r siwmper felen ar y diwedd i ennill y Tour of Britain am yr eildro.

Gyda Wouter Poels yn ail yn y Tour, Doull oedd y gorau o feicwyr Prydain yn y ras.

Ar ei gyfrif Twitter diolchodd Owain Doull i aelodau ei dîm a'r noddwyr, ond roedd neges hefyd yn diolch am eiriau caredig a chefnogaeth pobl wrth ochr y ffordd ar hyd y daith.

Dechreuodd y Tour of Britain yng Nghymru - Biwmares ar Ynys Môn - am y tro cyntaf wythnos yn ôl.

Tour of Britain 2015 - Y canlyniad:

  • 1. Edvald Boasson Hagen (Nor/MTN-Qhubeka) 34awr 52munud 52eiliad;
  • 2. Wouter Poels (Ned/Team Sky) +13 eiliad;
  • 3. Owain Doull (GB/Team Wiggins) + 42 eiliad;
  • 4. Rasmus Guldhammer (Den/Cult Energy Pro Cycling) +43 eiliad;
  • 5. Zdenek Stybar (Cze/Etixx-Quick-Step) +51 eiliad.