Adroddiad Iwan Griffiths
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymru'n croesawu Uruguay

14 Medi 2015 Diweddarwyd 21:53 BST

Bydd y cyfan yn dechrau yn Twickenham nos Wener. Rhaid aros tan ddydd Sul nesaf cyn i'r Cymry gamu i'r cae. Uruguay fydd eu gwrthwynebwyr nhw yn Stadiwm y Mileniwm. Mae nhw wedi bod yng Nghaerdydd yn ystod y dydd yn ymarfer, ac yn mwynhau seremoni groesawu arbennig.