Cwpan Rygbi'r Byd: Eli Walker allan

Eli Walker a Ross Moriaty
Image caption Eli Walker (chwith) allan, a Ross Moriaty (dde) yn camu i'r adwy

Mae Ross Moriarty wedi ei alw i garfan Cymru wedi i Eli Walker gael ei anafu ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd.

Fe ymunodd Walker â'r garfan wedi i Leigh Halfpenny ddioddef anaf yn y gêm ddiweddar yn erbyn Yr Eidal.

Nawr, mae wedi anafu llinyn-y-gâr, ac mae Ross Moriarty wedi cymryd ei le.

Mae Moriarty - 21 oed - yn fab i'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Paul, ac yn nai i gyn-gapten Cymru, Richard Moriarty.