Gobaith: Profiad Cymraes yn 'y jwngl'

catrin wager Image copyright Byd ar Bedwar
Image caption Aeth Catrin Wager i Calais dros y penwythnos diwethaf gyda nwyddau oedd wedi'u casglu er mwyn y ffoaduriaid yn y gwersyll yno

Byddai disgwyl fod unigolyn yn dychwelyd o gamp 'y jwngl' yn Calais yn llawn emosiwn. Digalondid a dicter am anghenion y bobl sydd yno, atgasedd tuag at y ffordd y maent yn cael eu trin, calon yn cynddeiriogi ynglŷn â'r diffyg ymateb swyddogol i'w sefyllfa.

Ond, ar ôl ymweld â Calais dros y penwythnos, rhyw wacter od sydd yn fy llenwi. Ton ar ôl don o wahanol deimladau ac adweithiadau i'r hyn a welwyd ac a wnaethpwyd yno.

Yn sicr, mae gweld 'y jwngl' am y tro cyntaf yn sioc. Un funud, yr ydych yn gyrru ar hyd traffordd arferol yn Ffrainc, ar funud nesaf, rydych yn troi i ffwrdd i wynebu car plismon, ac yn dod dros frig bryn i weld tref o bebyll o'ch blaen; camu'n syth o Ffrainc i'r trydydd byd.

Mae'n brofiad sy'n eich dychryn, a'r llwyth o bobl sydd yn crwydro'r stryd y tu allan i'r gwersyll yn edrych, ar yr olwg gyntaf, yn fygythiol.

Ond rhagfarn yw hyn. Wrth ddynesu, gwelir mai wynebau sy'n gwenu yw'r rhain. Breichiau'n codi i'n croesawu. Bloedd hapus. Codi bawd.

Image copyright Byd ar Bedwar
Image caption Lisa Jên - oedd wedi teithio gyda Catrin i Calais - yn dadlwytho'r fan o Fethesda

'Panig'

Y bwriad oedd cyfarfod ag elusen Auberge des Migrants i'w helpu i ddosbarthu bwyd, a chyfrannu'r bagiau hael o ogledd Cymru at y dosbarthiad hwn.

Ond gwelwyd yn fuan nad ydy'r jwngl yn rhywle lle gellir gwneud, a glynu at drefniadau. Ar ôl dosbarthiad esmwyth gan yr elusen brofiadol, ceisiwyd wedyn symud y ciw (oedd gannoedd, os nad miloedd, o bobl o hyd) at ein fan ni.

Wyddwn i ddim os mai'r panig o weld un fan yn cau ei drysau, ynte'r cipolwg o'r bagiau hael a baratowyd ym Methesda a'i gwnaeth hi, ond bu bron i ni golli rheolaeth a bu'n rhaid cau drws y fan, rhag ofn i'r sefyllfa droi yn reiat.

Cyndyn ydwyf o ddefnyddio geiriau ymfflamychol fel rhain. Mae awgrymu reiat yn gwneud i'r bobl swnio'n wyllt, yn anwaraidd ac anniolchgar.

Ond nid dyma'r bobl y bu i ni eu cyfarfod. Pobl garedig, glên a moesol a welsom ni. Pobl oedd eisiau rhannu gyda ni, cyn lleied ag yr oedd ganddynt hwy i'w rannu.

Cefais gynnig o fanana werthfawr gan ŵr o Swdan, ac ar ôl ei wrthod yn datgan fy mod wedi cael brecwast da, cael ynta'n ymateb mai hwn oedd ei frecwast...a hyn tua 15:00 y pnawn.

Image copyright Byd ar Bedwar
Image caption Roedd cannoedd os nad miloedd o bobl yn ciwio am gymorth

'Hollol annheg'

Does dim amheuaeth fod 'y jwngl' yn anwaraidd, ond y sefyllfa sydd felly, nid y bobl.

Rhaid camu'n ôl a meddwl pam fu gweld bag bwyd - oedd ddim llawer mwy na photel o olew, bag o reis a rhyw dri neu bedwar tin o domato neu lysiau yn gwneud i dorf o gannoedd bron colli rheolaeth?

Pa sefyllfa mae'r bobl yma yn byw ynddi, i ni orfod gneud y penderfyniad na ddylid gadael i'r dorf weld y degau o bebyll safonol oedd yn y fan rhag achosi reiat? Sefyllfa hollol annheg, dyna be.

Ond mae gobaith. Er nad oes elusen fawr yn gweithio yn y gwersyll hwn (pam ddim, alla' i ddim ateb), y mae gobaith.

Mae unigolion lleol, megis yr elusen Auberge des Migrants yn cyfarfod yn eu cartrefi i baratoi parseli bwyd ddwywaith yr wythnos. Nid grŵp mawr ffurfiol ydy'r rhain, ond unigolion teyrngarol, ar y cyfan yn eu 60au neu'n hŷn, na ellir gadael y fath ddioddefaint a diffyg parch at gyd-ddyn ddigwydd ar eu stepen drws. Yn eu cartrefi, mewn ysgubor yn gyfochrog â'u carafán mae'r pebyll, plancedi a nwyddau hanfodol yn cael eu cadw.

Daw gobaith hefyd drwy unigolion fel Zimaco, ffoadur ei hun, sydd wedi adeiladu ysgol yn 'y jwngl'. Nid Unicef, nid Achub y Plant, ond ffoadur sydd yn ceisio gwneud bywyd yn well i'w gyd-ddyn dan amgylchiadau hynod anodd.

A daw gobaith o'r holl bobl, ledled gogledd Cymru sydd wedi cyfrannu eu hamser a'u nwyddau i geisio ymateb i'r argyfwng hwn.

'Cadwyn o garedigrwydd'

Efallai mai dyna pam nad ydw i'n torri fy nghalon yn dychwelyd o Calais. Gan fy mod nawr yn gweld fod pobl, er diffygion awdurdodau, yn garedig, ac eisiau helpu eu cyd-ddyn.

Y ddelwedd a arhosith gyda mi o'r ymweliad, yw cerdded i ffwrdd o ysgol hyfryd Zimaco i glywed oglau persawr pryd o fwyd yn cael ei baratoi yn 'y jwngl'.

Agoriad llygaid i feddwl am y gadwyn o garedigrwydd sydd yn cael ei ffurfio; sut bydd bwyd o ogledd Cymru, heddiw, yn pasio drwy ddwylo caredig Auberge i'r ffoaduriaid, i'w droi yn wledd i rai sydd wir ei angen.

Tra bod pobl dda yn y byd, a tra bod y bobl rhain yn gallu cyd-weithio fel hyn, yn wir, hyd yn oed yn wyneb trychineb dynol enfawr fel hwn, y mae gobaith.

Bydd Y Byd ar Bedwar yn darlledu rhaglen am y daith ar nos Fawrth, 22 Medi, am 20:30.

Straeon perthnasol