Kleinveldt yn serennu yn erbyn Morgannwg

Kleinveldt Image copyright Getty Images

Cymrodd Rory Kleinveldt bedair wiced i Sir Northampton ar ail ddiwrnod y chwarae yn erbyn Morgannwg, ar ôl i law atal chwarae yn sesiwn y bore.

Dechreuodd Morgannwg ar 23 am 1 ar ôl i law ddifetha diwrnod cyntaf y chwarae yn Northampton, ond roedd Kleinveldt yn fygythiad o'r cychwyn cyntaf.

Cafodd Colin Ingram ei ddal gan Oli Stone am 5 cyn i Aneurin Donald gael ei fowlio am 8, y ddau oddi ar fowlio Kleinveldt.

Collodd Chris Cooke ei wiced yn fuan wedyn am 7 gan adael yr ymwelwyr mewn sefyllfa bryderus.

Ar ôl oedi pellach oherwydd y glaw, collodd Graham Wagg ei wiced yntau i fowlio Kleinveldt - y bumed wiced i'r bowliwr.

Aeth pethau'n waeth i Forgannwg wrth i'r capten Mark Wallace ymddeol gydag anaf.

Daeth yr unig obaith gan David Lloyd, wnaeth sgorio 64 heb fod allan.

Bydd Lloyd ac Andrew Salter yn parhau ar 166 am 6 ddydd Mercher.