Poblogaeth Cymru'n newid

Faint o bobl sy'n croesi pont Hafren er mwyn ymgartrefu yng Nghymru?
Image caption Faint o bobl sy'n croesi pont Hafren er mwyn ymgartrefu yng Nghymru?

Mae mudo'n bwnc llosg ar hyn o bryd wrth i ddegau o filoedd o bobl ffoi o Syria. Yn ddiweddar cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) eu ffigurau mudo diweddaraf.

Mae'r ystadegydd Hywel M. Jones, awdur gwefan StatIaith, wedi cael golwg fanylach ar y ffigurau ar ran Cymru Fyw i weld be' mae hyn yn ei olygu i Gymru:

73% wedi eu geni yng Nghymru

Yn 1951, roedd 83% o boblogaeth Cymru wedi eu geni yng Nghymru. Roedd y ganran wedi gostwng i 73% erbyn 2011.

Dros y cyfnod hwnnw mae'n amlwg mai mewnfudo o Loegr gafodd yr effaith mwyaf ar gyfansoddiad y boblogaeth. Erbyn 2011, roedd dros un o bob pump (21%) wedi eu geni yn Lloegr.

Er hynny, twf yn y ganran o bobl oedd wedi eu geni y tu allan i ynysoedd Prydain oedd y newid mwyaf trawiadol rhwng 2001 a 2011 - cynnydd o 3 i 5%.

Image caption Ffynhonnell: Cyfrifiad y Boblogaeth

Mae'r ystadegau yn dangos y newid yn y nifer gafodd eu geni tu allan i'r Deyrnas Gyfunol (DG) ers 2004 fesul blwyddyn. Cynyddodd y nifer 78% - o 101,000 yn 2004 i 180,000 yn 2014.

Dros yr un cyfnod, 4.6% oedd y cynnydd yn y boblogaeth gyfan. Mae'n cael ei amcangyfrif bod 5.9% o boblogaeth Cymru yn 2014 wedi eu geni y tu allan i'r DG.

Image caption Ffynhonnell: Amcangyfrifon Arolwg Blynyddol y Boblogaeth

Patrymau'n newid

Canlyniad proses ddwyffordd yw'r ffigurau hyn: bu allfudo'n ogystal â mewnfudo.

Mae'r siart nesaf yn dangos sut y newidiodd y llifau hyn dros y blynyddoedd. Mae'n dangos bod y niferoedd sy'n symud i mewn i Gymru o weddill y DG lawer iawn yn uwch na'r niferoedd sy'n symud i mewn o dramor.

Er hynny, erbyn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael - y flwyddyn o ganol 2013 tan ganol 2014 - amcangyfrifir nad oedd bron dim cyfraniad net o fudo o wledydd eraill y DG o'i gymharu â mewnlif net o bron i 6,000 o dramor.

Mae'n rhaid cofio nad yw'r ffaith nad oes bron dim mewnfudo net o weddill y DG ar hyn o bryd yn golygu nad oes newid o ran nodweddion y boblogaeth.

Er enghraifft, rhai na allant siarad Cymraeg fydd y rhan fwyaf o'r mewnfudwyr o weddill y DG ond mae'n debyg y bydd canran nid dibwys o siaradwyr Cymraeg ymhlith y rhai sy'n gadael ein gwlad.

Image caption Ffynhonnell: ONS

Genedigaethau

Er bod mewnfudo o dramor yn cyfrannu at dwf yn y boblogaeth, mae newid naturiol hefyd yn cyfrannu. Hynny yw, mae'r boblogaeth yn tyfu oherwydd fod mwy o blant sy'n cael eu geni na sydd o bobl yn marw.

Pobl ifanc yn bennaf yw'r mewnfudwyr o dramor ac maen nhw'n cyfrannu'n sylweddol at y twf yn nifer y genedigaethau. Roedd 3,643 o'r babanod a anwyd i famau Cymru yn 2014 yn blant i famau oedd wedi eu geni y tu allan i'r DG. Dyna 10.9% o'r holl fabanod, dros ddwywaith yn uwch na'r ganran a gafwyd yn 2001.

Tuedda'r mewnfudwyr o dramor i ymsefydlu yn y dinasoedd ac oherwydd hynny mae'r ganran yn uwch eto yn y dinasoedd: yn 2014, yng Nghaerdydd roedd 25% o'r babanod wedi eu geni i fam o dramor, fel yr oedd 20% yng Nghasnewydd a 15% yn Abertawe.

Llai o blant 'Gwyn Prydeinig' yng Nghaerdydd

Agweddau eraill y gellid eu hystyried yw ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, ac iaith.

Ni fyddid yn disgwyl i lawer o fewnfudwyr o dramor, nac yn y pendraw babanod i famau o dramor, ystyried eu hethnigrwydd i fod yn 'Wyn Prydeinig', a defnyddio term o Gyfrifiad 2001.

Mae cyfansoddiad y boblogaeth o ran ethnigrwydd wedi bod yn newid ac yn debygol o barhau i newid yn sylweddol. Yn ysgolion cynradd Caerdydd, er enghraifft, roedd 32% o ddisgyblion 2014 nad oeddynt yn 'Wyn Prydeinig', o'i gymharu â 24% yn 2008.

Nid yw gwlad enedigol yn cyfyngu ar yr unigolyn pan fydd yn ystyried pa hunaniaeth genedlaethol i'w harddel ond, o ran iaith, mae gwlad enedigol rhieni baban yn elfen bwysig.

Dysgir yr iaith - neu'r ieithoedd - cyntaf ar yr aelwyd, ac mae cysylltiad cryf rhwng gwlad enedigol rhywun a'i iaith. (Cofier, nid yw'r ffaith bod y fam wedi ei geni dramor yn golygu ei bod o reidrwydd â phriod neu bartner o'r un wlad: gallai fod wedi priodi Cymro Cymraeg.)

Yn anffodus, nid yw'r gyfundrefn bresennol yn y rhan fwyaf o Gymru yn debygol o sicrhau y daw plentyn mewnfudwr i siarad Cymraeg, mwy nag yw'n sicrhau y daw plentyn a anwyd yng Nghymru i rieni di-Gymraeg i siarad Cymraeg.

Image caption Hywel Jones