Caerdydd 0 - 2 Hull

hull caerdydd

Fe ddaeth Caerdydd yn agos at gymryd y blaen yn ystod y bumed munud gyda chroesiad gan Kagisho Dikgacoi, ond yn anffodus, fe lwyddodd golwr Hull, Alan McGregor i glirio'r bêl.

Roedd y ddwy ochr yn ceisio ymosod yn aml, ac roedd tempo uchel i'r gêm ar brydiau, ond fe lwyddodd Diame i roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi wyth munud o chwarae.

Roedd yn ymddangos fod Hull yn fodlon i amddiffyn eu mantais, drwy roi pum dyn i chwarae mewn safleoedd amddiffynnol.

Roedd yr ail hanner yn dilyn patrwm tebyg i'r hanner cyntaf, ond wedi 80 munud o chwarae, fe lwyddodd Hernandez, i saethu'r bêl yn isel tu hwnt David Marshall, ac i mewn i gornel isaf y gôl, gan sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Teigrod.