Gateshead 2 - 1 Wrecsam

peldroed

Mae Gateshead wedi symud heibio Wrecsam i'r ail safle yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth o 2-1 nos Fawrth.

Fe lwyddodd Josh Gillies i roi'r tîm cartref ar y blaen gyda chic rydd yn yr hanner cyntaf, ond fe darodd Wrecsam yn ôl cyn yr egwyl gydag ergyd wych gan Sean Newton.

Fe sicrhaodd Ryan Bowman y fuddugoliaeth i Gateshead wrth iddo benio croesiad gan Craig Baxter i mewn i rwyd Wrecsam.