Colofn Jo Blog

Jo Blog

Ar ôl seibiant dros yr haf mae Jo Blog yn ei ôl! Tra bod llawer ohonom ni wedi cael cyfle i ymlacio, mae'r colofnydd crintachlyd wedi dod adref o'i holidês yn fwy crintachlyd fyth, yn enwedig felly ar ôl y dathliadau yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf i nodi teyrnasiad hir y Frenhines:

'God Save The Queen'

Dwi'n ôl!

Dwi wedi bod ar fy ngwyliau.

A wyddoch chi be? Dwi wedi cael llond bol.

Mae pobl yn cwyno fy mod i'n gyrru'n gyflym ar y sgwter. Pan alla'i dwi'n gyrru ar y ffordd. Weithiau mae'n rhaid i mi fynd ar y palmant. A fyddech chi'n meddwl mod i'n mynd fel cath i gythraul a gyrru dros draed pobl - o'r ffordd maen nhw'n chwythu a thuchan arna'i.

Dwi hanner ffansi dathlu 'pen-blwydd' y frenhines fel pawb arall, glynu polyn mawr ac union jack arno fo i dîn y sgwter bach, cario speaker mawr yn y fasged ffrynt a chwarae recordiad o Dame Shan Cothi yn canu 'God Save The Queen' full-blast arno fo, i bobl gael clywed mod i'n dod. Ond nai ddim, yn wahanol i rai, mae gen i rywfaint o hunan barch.

Gen i gymaint o hawl â neb i fod ar y palmant. Dwi'n anabl. A dyw hi ddim fel petawn i'n gyrru motobeic.

Ar dy feic!

Dyna sydd wedi gwneud i 'ngwaed i ferwi'r haf yma. Blydi motobeics. A'r arwyddion yna sy'n mynnu atgoffa rhywun i THINK BIKE! Welais i'r un yn dweud THINK CAR! a, hyd y gwela'i, dyna sydd angen.

Beth bynnag am fy arferion gyrru i ar y sgwter, dwi'n barchus iawn yn y car. Ond dro ar ôl tro wrth grwydro ffyrdd cefn Ynys Môn (fues i ddim yn bell o Fangor ar fy ngwyliau) o'n i'n dod ar draws y nytars yma ar y beics.

Ac yn waeth byth, os oedd yna lathen o ffordd syth roedden nhw yno ar fy mumper i ac yn pasio digon agos i gribo'u gwalltie yn y mirror wrth basio. Byddwn i'n taeru bod y diawled yn codi eu tinau oddi ar y sêt ar ôl pasio a tharo rhech yn fy wyneb i.

THINK BIKE! myn diawl, dwi wedi treulio lot gormod o amser yr haf yma yn meddwl pethau drwg iawn am feics a beicwyr.

A be sydd waetha' ydy mod i'n gwybod pwy ydy lot ohonyn nhw. Rhai ohonyn nhw yn eu 60au fel finna, newydd wella o gael clun newydd, ac yn rhy fach a rhy wan i handlo'r beic.

Tasa'r beic yn disgyn drosodd fysa rhaid i'r rhan fwyaf ohonyn nhw gael y wraig allan i'w helpu nhw i'w godi fo i fyny eto.

A fel tasa rheiny yn pasio rhywun ddim digon drwg mae eu brodyr ar bedals yn siŵr o'ch dal chi'n ôl. A'r un genhedlaeth ydyn nhw eto. I gyd yn gwario'n wirion ar y resar gora posib am fod y boi drws nesa wedi cael un yn 1960 a hwythau yn dal i wthio beic mawr du oedd ddim wedi ei greu i'w bedlo i fyny'r allt.

A tasa nhw ond yn gwisgo dillad. Dydy leicra ddim yn cyfri fel dillad. O leia mae lledr yn cuddio pechodau. Haen arall o groen lliwgar ydy leicra. A dydy o ddim yn wir bod pawb sy'n reidio beics rasio yn denau. Nonsens.

Os rhywbeth, mae'r leicra yn gwneud y cwbl yn waeth - bol cwrw, coesau blewog a sideburns fel Syr Bradley yn sbecian allan dan ryw helmet binc.

Ac hyd yn oed os ydyn nhw'n meddwl eu bod nhw'n mynd yr un mor gyflym â fo, dydyn nhw ddim. Ac maen nhw'n dal pawb yn eu ceir yn ôl rhag cyrraedd... Penmynydd, neu rhywle. Aaaahhh.

THINK BIKE, mynd diawl i!

Bydd Jo Blog yn ei ôl ar wefan Cymru Fyw pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn.

Fe hoffai aelodau tîm Cymru Fyw dynnu eich sylw at y ffaith nad ydym ni erioed wedi gweld Jo Blog yn ein swyddfeydd, felly rydym ni yn cymryd mai cymeriad dychmygol ydy o!