"Dillad cŵl, cerddoriaeth cŵl"

Y Gwefrau - un o fandiau cŵl Caerdydd ar ddechrau'r 90au
Image caption Roedd Y Gwefrau ymhlith un o fandiau cŵl Caerdydd ar ddechrau'r 90au

Mae 'na nifer o fandiau Cymraeg wedi eu sefydlu yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd. Cadno a Hyll ydi'r cerddorion diweddara' i ddod i'r amlwg. Yn Boomshakaboomtang ar BBC Radio Cymru ar 18 Medi bydd y DJ Ian Cottrell yn edrych yn fanylach ar ddatblygiad y sîn roc Gymraeg yn y brifddinas. Mae'n rhannu rhai o'i argraffiadau gyda Cymru Fyw:

Edmygu o bell

Crumblowers, Y Gwefrau, Hanner Pei. Roedd hyd yn oed yr enwau yn *cŵl*, heb sôn am y dillad roedden nhw'n eu gwisgo, sut oedden nhw'n edrych ar y llwyfan, eu hacenion - O! Yr acenion! - ac wrth gwrs, roedd eu cerddoriaeth yn *hollol* cŵl.

Roedden nhw'n siarad â mi. Nid yn llythrennol. Oni'n eu hedmygu nhw o bell, o fy nghartref i yng Nglannau Dyfrdwy, yn eu gwylio nhw ar raglenni Y Bocs a Fideo 9 ar S4C.

A 25 mlynedd yn ôl, y cyfan 'o'n i isho'i wneud oedd bod yng Nghaerdydd, ble roedd y bandiau 'ma'n byw, efo'u dillad cŵl, eu cerddoriaeth cŵl a'u hacenion AMAZING.

Felly, fy newis cyntaf i astudio'r Gymraeg yn y brifysgol oedd Caerdydd. Ac ym 1991, cyrhaeddais i'r brifddinas yn 18 oed, gyda llond dwrn o ganlyniadau Lefel 'A' boddhaol, llond bocs o recordiau House a Disco, a llond pen o freuddwydion.

Image copyright You Tube
Image caption Roedd y Crumblowers yn perfformio yn rheolaidd ar raglenni pop S4C ac fe wnaethon nhw argraff ar y diweddar John Peel

Gwireddu breuddwydion

Bron i chwarter canrif wedyn, dwi dal yn byw yng Nghaerdydd. Dwi 'di bod yn DJ yng Nghlwb Ifor Bach ers fy wythnos gyntaf yn y Brifysgol, pan es i fyny at y rheolwr a'i haslo i adael i mi chwarae yno. A dwi 'di gwireddu fy mreuddwydion, and then some.

Ond dwi wastad 'di bod ychydig bach yn genfigennus o'r bobl sy 'di tyfu fyny yn y brifddinas. Oni'n ffodus iawn fy mod i wedi cael magwraeth gerddorol eitha' cynhwysfawr, gyda siopau recordiau, gorsafoedd radio a chlybiau nos Manceinion a Lerpwl ar fy stepen drws.

Ond roedd gan Gaerdydd un peth ychwanegol - cerddoriaeth Gymraeg.

Dwi'n reit hyddysg yn natblygiad y sîn Gymraeg yng Nghaerdydd o ran y rôl chwaraeodd y dociau a'i glybiau a'i gerddorion wrth siapio cerddoriaeth Bando, Endaf Emlyn, Jîp a Geraint Jarman ddiwedd y 70au a dechrau'r 80au, a hynny drwy fwydro Caryl, Endaf a Jarman am y pwnc ar bob cyfle dwi 'di'i gael dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Image caption Dyw dylanwad Geraint Jarman ar sîn roc Gymraeg y brifddinas ddim wedi pylu dim dros y degawdau

Hanner canrif o gerddoriaeth

Ond roeddwn i eisiau treiddio'n ddyfnach i mewn i psyche cerddorol Cymry Cymraeg Caerdydd er mwyn gweld beth oedd wedi eu siapio nhw, a beth oedd wedi siapio'r sîn gerddorol Gymraeg yn y ddinas, gan ddechrau 50 mlynedd yn ôl mewn theatr yn yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays.

Roedd fy nhaith gerddorol lawr yn y ddinas wedi dod â lot fawr o bleser i mi. Ar adegau'n annisgwyl, ond o hyd yn ddiddorol. Mae twf sîn gerddorol Gymraeg Caerdydd yn mynd law yn llaw â datblygiad y ddinas ei hun.

Erbyn hyn yn llawer mwy cyfforddus yn ei haml-ieithrwydd, mae'r cyfleoedd mae'r brifddinas wedi ei chynnig i'n cerddorion yn amhrisiadwy.

Fel y bobl hyn, ac fel yr ardaloedd yn y ddinas, mae gan bob un ohonyn nhw bersonoliaeth wahanol, ond yr un galon sy'n curo tu mewn i bawb.

Boomshakaboomtang, BBC Radio Cymru, Nos Wener,18 Medi, 18:15

Image caption Mae traddodiad cerddoriaeth gyfoes Gymraeg y brifddinas yn ddiogel yn nwylo bandiau fel Breichiau Hir