Bwrdd iechyd 'wedi troi cornel'

Simon Dean
Image caption Mae Simon Dean wedi dweud ei fod eisiau cefnogi staff y bwrdd iechyd i wneud eu gwaith

Mae pennaeth dros dro bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn dweud fod y bwrdd wedi troi cornel ers cael ei osod dan fesurau arbennig 100 o ddiwrnodiau'n ôl, o achos pryderon am y ffordd yr oedd yn cael ei redeg.

Mae Simon Dean, prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod llawer o waith ar ôl i'w wneud ers i'r mesurau arbennig gael eu gweithredu ym mis Mehefin.

Fe osododd Mr Dean sialens o 100 niwrnod i ddechrau gwneud gwelliannau i'r bwrdd. Roedd y bwrdd iechyd, sydd yn gwasanaethu bron i 700,000 o bobl yng ngogledd Cymru, wedi bod yn destun nifer o sgandalau.

Cafodd Mr Dean ei ddewis gan weinidogion Llywodraeth Cymru i fod yn brif weithredwr dros dro ar y bwrdd, a'i swydd o ddydd i ddydd yw dirprwy brif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Cymreig. Dywedodd Mr Dean: "Rydym wedi cychwyn ar y gwaith o droi pethau rownd.

"Mae na arwyddion fod pethau'n gwella. Mae llawer mwy i'w wneud. Mae na fwriad tymor hir i ddatblygu Gwasanaeth Iechyd uchelgeisiol a ffyniannus y mae pobl y gogledd am ei weld," meddai wrth BBC Radio Wales.

Gwelliannau

Erbyn hyn mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw wedi cyflawni'r canlynol:

  • Ailgysylltu gyda'r cyhoedd a staff drwy gynnal cyfarfodydd, ac adolygu'r broses gwyno.
  • Iechyd Meddwl: Gwell oruchwyliaeth i staff dan hyfforddiant a sicrhau bod meddyginiaethau yn cael eu storio yn fwy diogel.
  • Cyflwyno mesurau i wella gwasanaethau y tu allan i oriau arferol, a bydd adolygiad pellach ym mis Medi.
  • Adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd llywodraethu a hyfforddiant ychwanegol i aelodau. Mae cyfarwyddwyr penodol wedi eu clustnodi i oruchwylio prosiectau cyfalaf.
  • Ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau mamolaeth ac obstetreg, gyda risg o fewn y gwasanaethau yn cael ei fonitro yn barhaol.
  • 27 o benodiadau wedi ymgyrch recriwtio bydwragedd.

Mae gohebydd iechyd BBC Cymru Owain Clarke wedi dadansoddi sefyllfa'r bwrdd iechyd wrth gyrraedd 100 niwrnod dan fesrau arbennig. Mae modd darllen ei ddadansoddiad drwy glicio yma.

'Camau sylweddol'

Dywedodd dirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething fod camau sylweddol wedi'u cymryd ym mhob un o'r pum maes y tynnwyd sylw atynt fel rhan o'r mesurau arbennig.

Y pum maes dan sylw yw llywodraethu, arwain a goruchwylio; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn y Gogledd.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'n rhaid i'r mesurau arbennig ddarparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y tymor hir a rhoi hyder i bobl y Gogledd yng ngallu'r bwrdd i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel.

"Bydd statws y bwrdd iechyd o ran trosglwyddo i lefel uwch yn cael ei adolygu'n gyson o dan drefniadau'r fframwaith trosglwyddo. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd pellach, ac rwyf am ei gwneud yn glir y bydd y bwrdd iechyd yn parhau dan fesurau arbennig am y tro.

Ymateb

Wrth nodi fod y bwrdd wedi cyrraedd 100 niwrnod mewn mesurau arbennig, dywedodd yr aelod Cynulliad Ceidwadol Darren Millar, llefarydd yr wrthblaid ar iechyd: "Mae pobl gogledd Cymru wedi cael llond bol ar yr ymddiheuriadau ag esgusodion am y methiannau. Mae staff gweithgar, cleifion a'u hanwyliaid am weld cynnydd a gwelliannau."

Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Gogledd Cymru Plaid Cymru: "Mae'n rhy gynnar i ddweud a fydd y tîm newydd yn gwneud y newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn gwella ein gwasanaeth iechyd yn y Gogledd, ond rwyf yn cefnogi unrhyw welliant wrth reswm.

"Y pryder mwyaf ar hyn o bryd yw a ddylai bwrdd dan mesurau arbennig fedru cynnal ymgynghoriad dadleuol dros leihau gwasanaethau mamolaeth. Mae'r angen ail-adeiladu hyder y cyhoedd yn ogystal â morâl y staff yn holl bwysig ac, os yw pobl yn teimlo bod eu llais nhw a barn arbenigol yn cael ei anwybyddu unwaith eto, yna bydd yr holl waith a wnaed gan yr uwch dîm rheoli yn wastraff.

"Rwy'n parhau i bryderu fod y 'cau dros dro' sy'n cael ei gynnig gan y bwrdd iechyd o bosib yn rhywbeth parhaol; y gallai'r ganolfan gofal dwys i fabanod newydd anedig hir-ddisgwyliedig yn Ysbyty Glan Clwyd gael ei beryglu a bod recriwtio meddygon ymgynghorol yn gyfyngedig i rhai dros dro yn unig.

"Mae yna faterion pwysig eraill - megis gofal iechyd meddwl a rheoli heintiau sydd yn y gorffennol wedi arwain at achosion difrifol o C Difficile - hefyd yn dal i fod heb eu datrys a bydd yn cymryd llawer mwy na 100 o ddiwrnodau i'w datrys.

"Yn y bon, dan ni dal i ddisgwyl i weld ai llwyddiant neu beidio fydd hyn."

'Siom'

Dywedodd Aled Roberts AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Rwyf wedi fy siomi'n fawr bod y sefyllfa yng ngogledd Cymru wedi dirywio i'r fath raddau ag y gwnaeth.

"Rydym yn cael clywed gan y prif weithredwr fod y bwrdd iechyd wedi troi cornel, ond dim ond profiad y cleifion all gadarnhau os mai dyma'r achos.

"Rydym angen bwrdd iechyd sydd gyda ffydd pobl gogledd Cymru. Nid dyna'r achos yn syml ar hyn o bryd. Mae dybryd angen newidiadau ac mae eu hangen ar frys."

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu statws y bwrdd iechyd yn ffurfiol ym mis Hydref.

Image caption Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y byddai'r bwrdd iechyd yn cael ei osod dan fesurau arbennig ym mis Mehefin