Cymraeg cywir?

Beiro Coch

Mae rhai'n beirniadu 'plismyn iaith' sydd yn cywiro Cymraeg defnyddwyr y gwefannau cymdeithasol yn gyhoeddus, gan ddadlau fod ymddygiad fel hyn yn gwneud pobl yn llai parod i ddefnyddio'r Gymraeg ar lwyfan sydd yn tyfu mewn pwysigrwydd.

I ddechrau cyfres o eitemau Agwedd@Iaith mae Cymru Fyw wedi gofyn i @YBeiroCoch, un o 'blismyn iaith' gwefan Twitter, i egluro ei safbwynt:


Y gelyn oddi fewn?

Anodd deall weithiau gymaint o amharch sydd gan y Cymry Cymraeg at y Gymraeg. Byddant bob un yn bloeddio 'Er gwaethaf pawb a phopeth' ac 'o bydded i'r heniaith barhau' tan berfeddion, heb sylweddoli mai nhw yw'r rhan fwyaf o'r 'pawb' yna, a'u bod nhw'n gwneud mwy nag unrhyw 'hen Fagi a'i chriw' i ladd yr iaith.

Nid yn unig eu bod nhw'n mynnu siarad ac ysgrifennu llediaith sy'n mynd yn debycach bob dydd i'r Saesneg (pan nad ydyn nhw'n defnyddio'r Saesneg, hynny yw - a Saesneg da iawn gan amlaf), ond wele nhw, yn waeth na hynny, yn hapus i feirniadu eraill am geisio gweld defnyddio'r Gymraeg a chynnal safonau.

Wrth gwrs - rwy'n siarad o brofiad fan hyn, a minnau'n un o'r rheiny sy'n 'ceisio cynnal safonau'. Byddaf yn gwneud hyn drwy dynnu sylw bob hyn a hyn at gamgymeriadau iaith ar Twitter, a byddaf wrth gwrs yn tynnu nythod cacwn ar fy mhen drwy wneud hynny!

Image caption Cyngor ieithyddol amserol gan @YBeiroCoch

Cadw at reolau'r iaith

Ar y cyfan, fydda' i ond yn cywiro'r camgymeriadau mwyaf cyffredin - a mwyaf peryglus, sef camgymeriadau sy'n symud y Gymraeg yn nes at y Saesneg ac yn peryglu ei difetha hi.

Ydw, rwy'n athro, a defnyddiol yw medru dangos camgymeriadau yn eu cyd-destun, gan dynnu sylw ar yr un pryd at reolau'r iaith. Fydda' i byth yn amlygu iaith neb ond cyrff cyhoeddus, gwleidyddion a newyddiadurwyr - pobl sydd i fod i gynnal safonau. 'Fair game', dybiwn i!

Rhyfeddol, a dweud y lleiaf, oedd yr ymateb a ddaeth pan anfonais un neges i gywiro'r BBC am ysgrifennu 'ganddo' yn lle 'ganddoch'.

Image copyright Twitter

Y mae drysu terfyniadau arddodiaid a berfau yn bla ar hyn o bryd (e.e. 'byddai' yn lle 'bydda i'; 'mae nhw' yn lle 'maen nhw', ac ati) ac mae cryn dipyn o hyblygrwydd yr iaith ysgrifenedig yn cael ei golli yn sgil hyn (ta waeth a glywir y gwahaniaeth ar lafar ai peidio).

Yn ôl fy arfer, anfonais drydariad yn cynnwys esboniad o'r camgymeriad (yn cynnwys ffurfiau safonol yr arddodiad), ac wele firestorm o gwyno ac o rantio yn fy erbyn.

Cymraeg iach?

Dyma sy'n digwydd yn or-fynych yn y Gymru Gymraeg. "Paid â gofyn am gywirdeb!" yw'r gri. "Paid â mwydro am safonau! Dylet ti ddiolch am yr hyn o ddefnydd sydd. Ymfalchïa yn dy friwsion! Gwell Cymraeg slac..." ac ati.

Ond, mae angen safonau, ac mae angen cywirdeb. Yn sylfaenol, mae angen y rheiny er mwyn cael iaith iach - er mwyn iddi fedru anadlu a thyfu, ac er mwyn cael patrymau y gall plant, a dysgwyr eraill, eu hefelychu.

Hoffwn ddweud hefyd taw nad *beirniadu* pobl yn unig a wnaiff @YBeiroCoch, ond hefyd rwy'n cynnig #tipydydd, sef esboniadau byr o bwyntiau gramadegol trafferthus. Y mae'r beiro hefyd yn gysylltiedig â gwefan sy'n cael ei hadeiladu'n araf.

Image caption Faint o'r miloedd sy'n mynychu'r Eisteddfod pob blwyddyn sy'n deall rheolau gramadeg?

Os nad yw newyddiadurwyr y BBC neu Golwg, neu'n cynghorau sir a'n gwleidyddion, yn gwybod pryd i dreiglo neu sut i sillafu, dylen nhw ddysgu - ac mae eisiau dweud wrthyn nhw, iddyn nhw gael deall bod rhywrai yn becso.

Ni, a ni yn unig sy'n gyfrifol am ddyfodol yr iaith. Os na ofynnwn am well, Cymraeg slac yw'r unig Gymraeg a fydd ar ôl, a honno'n slacio fwyfwy nes iddi farw'n llwyr.


Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda safbwynt Y Beiro Coch? E-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk neu gysylltwch drwy @BBCCymruFyw ar Twitter.

Mae Cymru Fyw yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am gyfrif Twitter @YBeiroCoch, ond sydd yn dymuno aros yn ddienw.


Sylwadau

"Yn cytuno'n llwyr gyda'r 'Beiro Goch'. O bydded i'r 'beiro' barhau!" - Deiniol Jones

"Cytuno'n llwyr â Beiro Goch!" - Ieuan James

"Dylai'r sawl sy'n cael ei gyflogi'n unswydd i ddefnyddio iaith, e.e. newyddiadurwyr, ddisgwyl cael ei gywiro." - David Bullock

"Mae angen ystod eang o ddefnyddwyr, y gwych a'r gwan, ar bob iaith fyw." - Alwyn ap Huw

"Rwy'n cytuno gyda'r BeiroCoch. Mae fy Nghymraeg wedi gwella wrth gael ei gywiro a rydw eisiau ei wella eto." - Moelwen Gwyndaf

"Mae cywiro Cymru Fyw yn dderbyniol gan eich bod yn wasanaeth cenedlaethol a ariennir gan ein trethi. Mae angen gofal." - Ben Alun Screen