Gareth Edwards wedi ei urddo yn farchog

Knighthood

Mae'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gareth Edwards wedi cael ei urddo'n farchog yng Nghastell Windsor.

Fe gafodd ei enwi ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin.

Cafodd ei urddo gan Ddug Caergrawnt ddydd Iau.

Mae'r anrhydedd yn cydnabod cyfraniad Edwards, sy'n cael ei ystyried yn un o'r chwaraewyr gorau yn hanes rygbi'r byd, ac am ei wasanaeth i chwaraeon yn gyffredinol ac am ei waith elusennol.

Enillodd y mewnwr 53 cap dros Gymru rhwng 1967 a '78, gan sgorio 20 cais.

Mae Cymru Fyw wedi creu oriel luniau yn edrych yn ôl ar yrfa Gareth Edwards.