Dyfodol cyffur canser yn ansicr

Pills Image copyright Think Stock

Mae dyfodol y defnydd o gyffur ar gyfer canser pancreatig yng Nghymru yn ansicr ar ôl i gorff meddygol ddweud na ddylid ei ddefnyddio.

Y llynedd cafodd y defnydd o'r cyffur Abraxane ei argymell gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaeth Cymru ac roedd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd yma.

Ond nawr mae NICE, y corff sy'n gyfrifol am argymell y defnydd o gyffuriau a'i pheidio, yn dweud na ddylid ei ddefnyddio.

Mae penderfyniad NICE wedi synnu'r elusen Pancreatic Action Wales, sy'n galw ar y rhai sy'n dioddef o'r salwch i bwyso ar Aelodau Seneddol am newid y penderfyniad.

Dywed llywodraeth Cymru y bydd y cyffur yn parhau ar gael nes iddyn nhw gael rhagor o gyngor.