Atgyfodi Eisteddfod: Gweledigaeth Merêd

cwmystwyth
Image caption Fe gafodd yr eisteddfod ddiwethaf ei chynnal yng Nghwm Ystwyth yn 1961

Fe fydd un o Eisteddfodau bach Ceredigion yn cael ei hatyfodi'r penwythnos yma ar ôl 50 mlynedd.

Gweledigaeth y diweddar Dr Meredydd Evans oedd atgyfodi Eisteddfod Gadeiriol Cwm Ystwyth, a Dr Evans oedd llywydd anrhydeddus yr eisteddfod tan ei farwolaeth ddechrau'r flwyddyn.

Mae teulu Merêd wedi cyfrannu gwobr er cof amdano yn y gystadleuaeth alaw werin, lle mae cystadleuwyr yn cael cyfle i berfformio unrhyw un o gyhoeddiadau Merêd a'i briod, Phyllis Kinney.

Dywedodd un o drefnwyr yr eisteddfod, Brython Davies wrth Raglen Dylan Jones ar BBC Cymru mai yn 1961 y cafodd yr eisteddfod ddiwethaf ei chynnal yng Nghwm Ystwyth.

Image copyright S4c
Image caption Gweledigaeth Merêd oedd atgyfodi eisteddfod Cwm Ystwyth

"Y diweddar Dr Meredydd Evans, Merêd, oedd wedi gosod testun cysadleuaeth y Gadair - ac mae 11 wedi cystadlu." Meddai Mr Davies

"Mae'r gadair wedi cael ei gwneud gan ddefnyddio llechen o Flaenau Ffestiniog, ardal enedigol Merêd, ac mae 'na blwm ynddi i gynrychioli gwaith mwyn Cwm Ystwyth.

"Mae'r eisteddfod wedi dod â phobol y pentref at ei gilydd. Mae merch o'r enw Joanna Morgan sy'n wreiddiol o Lundain ond wedi ymgartrefu yn yr ardal a dysgu Cymraeg wedi dechrau côr yn y pentref."

Mae Brython Davies ei hun wedi dychwelyd i fyw yn yr ardal, ac mae wedi hyfforddi parti cyd-adrodd fydd yn cystadlu yn yr eisteddfod.

Straeon perthnasol