Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd

Heddlu

Mae dynes wedi cael anafiadau difrifol ac mae tri arall wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd nos Fercher.

Dywedodd yr heddlu bod Citroen Saxo arian wedi troi ar ei do ar y B4411 rhwng Cricieth a Bryncir am tua 20:25.

Roedd yn rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd dorri un ddynes yn rhydd o'r cerbyd cyn cludo'r pedwar i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Nid oedd cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion a dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio 101, gan roi'r rhif S142157.