Cyn-gynghorydd yn gwadu peryglu awyren

john arthur
Image caption Mae John Arthur Jones yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn

Mae cyn-gynghorydd o Ynys Môn wedi gwadu cyhuddiad o beryglu awyren tra'n hedfan.

Mae John Arthur Jones, 65 oed, o Barc Cefni, Bodffordd, yn wynebu 13 cyhuddiad o esgeulustod, neu o ymddwyn yn ddi-hid drwy weithredu mewn modd oedd yn debygol o beryglu awyren neu'r bobl oedd yn teithio arni.

Fe ddigwyddodd y troseddau honedig rhwng mis Tachwedd 2013 a Medi 2014.

Fe honnir fod golau llachar wedi cael ei bwyntio at awyrennau Hawk, oedd yn hedfan fel rhan o hyfforddiant nos yr awyrlu yn y Fali.

Fe gafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth, ar yr amod nad oedd yn defnyddio fflachlamp nac unrhyw ddyfais goleuo, tu allan i'w gyfeiriad cartref.

Fe fydd yr achos yn cael ei gynnal ar 16 Tachwedd.