Carwyn a Corbyn yn 'ddynion peryglus', medd Andrew RT

Graphic
Image caption Fe wnaeth Carwyn Jones a Jeremy Corbyn gyfarfod am y tro cyntaf yn Llundain ddydd Mercher

Jeremy Corbyn a Carwyn Jones yw "dau o'r dynion mwyaf peryglus i ddyfodol Cymru" yn ôl arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies.

Honnodd Mr Davies bod arweinydd newydd Llafur a Phrif Weinidog Cymru yn "fwy o risg i dwf economaidd... nac mae'r wlad wedi ei weld o'r blaen".

Ychwanegodd bod gan y blaid Lafur agenda "chwith eithafol", "gwrth-fusnes" yng Nghymru a gweddill y DU bellach.

Roedd yn cyfarch aelodau'r Blaid Geidwadol yn Aberafan nos Wener.

Fe wnaeth Mr Davies gyhuddo'r Blaid Lafur o droi eu cefn ar "wleidyddiaeth prif ffrwd" gan ethol Mr Corbyn, ond awgrymodd hefyd bod pobl Cymru wedi bod yn "foch cwta i Gorbiniaeth ers peth amser".

Honnodd bod Llafur wedi gwneud Cymru yn "brawf methedig i'r chwith eithafol" am 16 mlynedd.

Fe wnaeth Mr Jones gyfarfod Mr Corbyn am y tro cyntaf ddydd Mercher, gyda llefarydd yn disgrifio'r achlysur fel un "positif".

'Chwerthinllyd'

Fe wfftiodd llefarydd ar ran y blaid Lafur yng Nghymru y sylwadau, gan alw'r araith yn "chwerthinllyd".

Ychwanegodd: "Mae'n wedd newydd, rhad ar yr hysbysebion 'New Labour New Danger' yn 1997 - a 'dy ni gyd yn cofio sut weithiodd hynny mas i'r Ceidwadwyr.

"Os yw'r Ceidwadwyr am dreulio'r tymor ymgyrchu yn traethu am Marx a chomiwnyddiaeth yna pob lwc iddyn nhw - mae'n gwneud iddyn nhw edrych yn wirion."

Image caption Awgrymodd Andrew RT Davies bod pobl Cymru wedi bod yn "foch cwta i Gorbiniaeth ers peth amser"

Straeon perthnasol