100 o swyddi mewn gwesty wedi buddsoddiad o £7m

Bodelwyddan Castle Hotel Image copyright Adrian Briscoe

Bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu yn dilyn buddsoddiad o £7 miliwn mewn gwesty rhestredig Gradd II yn Sir Ddinbych.

Cafodd Gwesty Castell Bodelwyddan ei ailagor ddydd Gwener gyda 45 o fythynnod yn y gerddi, lolfa newydd, ardal fwyta ac adnoddau hamdden.

Yn ôl y perchnogion Warner Leisure Hotels, mae'r gwaith yn golygu bod lle i 10,000 o westeion ychwanegol i aros yno bob blwyddyn.

Mae'r gerddi hefyd wedi cael eu gweddnewid gyda phwll dŵr yn cael ei greu yno.