Diflaniad Alec Warburton: Tenant wedi'i arestio

David Craig Ellis
Image caption Roedd yr heddlu wedi apelio i ddarganfod David Craig Ellis

Mae heddlu yn Iwerddon wedi arestio dyn mewn cysylltiad â diflaniad Alec Warburton o Abertawe.

Dywedodd Heddlu'r De bod tenant Mr Warburton, David Craig Ellis, 40 oed, wedi ei arestio.

Ychwanegwyd eu bod yn gweithio gyda'r Garda i'w estraddodi yn ôl i'r DU.

Cafodd Mr Warburton, 59 oed, ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf yn ei gartref yn ardal Sgeti, Abertawe.

Yn yr wythnosau wedyn, fe wnaeth yr heddlu gadarnhau eu bod yn trin y diflaniad fel achos o lofruddiaeth.

Does dim mwy o wybodaeth eto.

Image caption Cafodd Alec Warburton ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf