Diflaniad Alec Warburton: Ceisio estraddodi

David Craig Ellis
Image caption Roedd yr heddlu wedi apelio i ddarganfod David Craig Ellis

Wedi i heddlu yn Iwerddon gadw dyn o Abertawe yn y ddalfa, mae Heddlu'r De yn gweithio gyda'r Garda i'w estraddodi.

Mae swyddogion yng Nghymru eisiau siarad â'r dyn ynglŷn â diflaniad Alec Warburton, 59 oed, gafodd ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf yn ei gartref yn ardal Sgeti, Abertawe.

Fe gafodd tenant Mr Warburton, David Craig Ellis, 40 oed, ei roi yn y ddalfa yn Galway ddydd Gwener.

Yn yr wythnosau wedi diflaniad Mr Warburton, fe wnaeth yr heddlu gadarnhau eu bod yn trin y diflaniad fel achos o lofruddiaeth.

Image caption Cafodd Alec Warburton ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf

Straeon perthnasol