Boreham Wood 0-1 Wrecsam

wrecsam boreham wood Image copyright Getty Images

Connor Jennings sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Wrecsam drechu Boreham Wood yn y gynghrair genedlaethol.

Fe roddodd capten y Dreigiau nhw ar y blaen drwy benio croesiad Blaine Hudson i'r rhwyd.

Fe fethodd Dominic Vose ddau gyfle i ddyblu mantais yr ymwelwyr, ac fe darodd Joe Devera y postyn ar ei gêm gyntaf i Boreham Wood.

Mae Wrecsam yn dringo i'r trydydd safle yn y gynghrair, bum pwynt y tu ôl i Forest Green.