Bachgen yn syrthio 100 troedfedd ar Yr Wyddfa

Crib goch a Chrib y Ddysgl Image copyright Phil Benbow
Image caption Mae Crib y Ddysgl a Chrib Goch ymysg llwybrau mwyaf heriol Yr Wyddfa

Fe syrthiodd bachgen saith oed 100 troedfedd wedi i'w deulu fynd ar goll ar un o gopaon Yr Wyddfa bnawn Sadwrn.

Roedd y teulu wedi cyrraedd Crib y Ddysgl - tir carregog a serth - pan faglodd y bachgen a syrthio.

Fe alwodd Tîm Achub Mynydd Llanberis am gymorth gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau, a chafodd parafeddyg ei gludo at y bachgen.

Yna, fe gludodd yr hofrennydd bedwar aelod o'r tîm achub mynydd yno er mwyn rhoi cymorth i weddill y teulu.

Erbyn hyn, mae'r bachgen mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Gwynedd, lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth.