Warburton: 'Troed ar y sbardun am 80 munud'

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Sam Warburton wedi arwain Cymru mewn 36 o gemau - mwy nag unrhyw chwaraewr arall

Wrth i dîm rygbi Cymru baratoi i wynebu Uruguay yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd bnawn Sul, mae Sam Warburton yn rhybuddio na fydd y garfan yn llaesu dwylo.

Mae disgwyl i Gymru ennill yn gyfforddus, ond, a hwythau yn y grŵp mwyaf cystadleuol - gyda Lloegr, Awstralia a Ffiji - mae Warburton wedi galw am berfformiad didostur.

"Fe fydd ein traed ni ar y sbardun am 80 munud," meddai.

"Dw i'n meddwl bod rhaid i ni barchu Uruguay - 'dy ni'n disgwyl iddyn nhw fod llawer yn fwy trefnus nag oedden nhw yn erbyn Japan a Rwsia.

"Mae nhw wedi cael mis i baratoi gyda'i gilydd felly dw i'n credu y bydd 'na fwy o drefn."

linebreak

BE 'DI BE...

  • Dyw Cymru ac Uruguay heb gyfarfod ar y lefel uchaf, ond fe gurodd Cymru A nhw 66-22 yn 2001, gyda chais i Shane Williams a Gavin Henson.
  • Roedd Gethin Jenkins ar y fainc yn y gêm honno.
  • Cafodd capten Cymru, Sam Warburton ei anfon o'r cae ar ôl 17 munud yn gêm gyn-derfynol y bencampwriaeth yn 2011 yn erbyn Ffrainc. Fe gollodd Cymru 9-8.
  • Mae Uruguay wedi ennill dwy gêm yn y bencampwriaeth - yn erbyn Sbaen yn 1999 a Georgia yn 2003.
  • Mae Cymru yn y pumed safle yn nhabl y detholion, ac Uruguay yn 19eg.

Dyw Uruguay heb chwarae yng Nghwpan y Byd ers 2003 a does gan neb yn y garfan brofiad yn y bencampwriaeth.

Dim ond pedwar o'r tîm sy'n chwarae rygbi y tu allan i'r wlad, ac mae eu capten - Santiago Vilaseca - yn gweithio fel banciwr.

Sanitago Vilaseca Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bu'n rhaid i Santiago Vilaseca ofyn am amser o'r gwaith yn y banc er mwyn cystadlu

Cymru: Liam Williams (Scarlets); Alex Cuthbert (Gleision), Cory Allen (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau); Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Davies (Scarlets); Paul James (Gweilch), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Sam Warburton (capt, Gleision Caerdydd), Justin Tipuric (Gweilch), James King (Gweilch).

Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Aaron Jarvis (Gweilch), Tomas Francis (Caerwysg), Dominic Day (Caerfaddon), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Lloyd Williams (Gleision), Matthew Morgan (Bryste).

Uruguay: Gaston Mieres; Santiago Gibernau, Joaquin Prada, Andres Vilaseca, Rodrigo Silva; Felipe Berchesi, Agustin Ormaechea; Alejo Corral, Carlos Arboleya, Mario Sagario, Santiago Vilaseca (capt), Jorge Zerbino, Juan Manuel Gaminara, Alejandro Nieto, Matias Beer.

Eilyddion: German Kessler, Oscar Duran, Mateo Sanguinetti, Franco Lamanna, Agustin Alonso, Juan De Freitas, Alejo Duran, Francisco Bulanti.

linebreak

Gallwch ddilyn holl hynt y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw, sy'n dechrau am 2.00pm.