Ailagor adeilad y Llyfrgell Genedlaethol wedi tân

Tân Llyfrgell Genedlaethol
Image caption Fe wnaeth tân achosi gwerth £5m o ddifrod i do'r adeilad ym mis Ebrill 2013

Mae un o adeiladau'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn cael ei ailagor ddydd Llun, dros ddwy flynedd wedi iddo gael ei ddifrodi gan dân.

Fe wnaeth y tân yn nhrydydd adeilad y llyfrgell ddinistrio archifau ac achosi gwerth £5m o ddifrod i do'r adeilad ym mis Ebrill 2013.

Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, fydd yn ailagor yr adeilad.

Fe wnaeth ymchwiliad ddarganfod bod y tân wedi cynnau mewn camgymeriad.

Image copyright Damian Longree

Straeon perthnasol