Gwrthdrawiad Aberpennar: Beiciwr modur gerbron llys

Mae beiciwr modur i ymddangos gerbron llys ddydd Llun mewn cysylltiad â gwrthdrawiad adawodd fachgen ysgol mewn cyflwr difrifol.

Bydd y gŵr 27 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful wedi ei gyhuddo o achosi niwed difrifol gan yrru'n beryglus, a chyhuddiad arall o yrru'n ddiofal.

Yr honiad yw iddo daro Tye Hawkins, 10 oed, gyda'i feic modur yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, ar 3 Medi.

Dywedodd Heddlu'r De bod Tye yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.