Polisi iaith Gwynedd: 'Dim dealltwriaeth'

Addysg

Mae adroddiad ar addysg Gymraeg mewn ysgolion yng Ngwynedd wedi dod i'r casgliad nad oes 'cysondeb' na 'dealltwriaeth gyffredinol' o ofynion polisi iaith y cyngor mewn rhai ysgolion ar hyn o bryd.

Bu Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyngor Gwynedd yn ystyried yr adroddiad ymchwil ar addysg Gymraeg yn y sir fore Mawrth, gan bleidleisio dros dderbyn yr holl argymhellion ynddo.

Fe fydd adroddiad pellach am ddatblygiadau pellach ymhen chwe mis.

Ymysg argymhellion yr adroddiad mae sefydlu canolfan iaith newydd i ardal Bangor, a sefydlu darpariaeth drochi ieithyddol ar gyfer Ysgol Ardudwy yn Harlech.

Sefydlwyd yr Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau er mwyn asesu sut y mae polisi iaith yr awdurdod yn cael ei weithredu mewn ysgolion unigol, a'r graddau y mae'r ddarpariaeth yn gymorth i hybu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc.

Bwriad yr ymchwiliad oedd llunio argymhellion ar gyfer gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir, ac fe wnaeth yr ymchwiliad ganolbwyntio ar dri dalgylch, sef Ardudwy, Bangor a Botwnnog.

Argymhellion

Mae'r adroddiad ymchwil yn gwneud nifer o argymhellion, yn cynnwys:

  • ystyried sefydlu Canolfan Iaith i Fangor er mwyn cefnogi gweithrediad a chyflawniad polisi iaith y cyngor.
  • ystyried sefydlu darpariaeth addysg drochi benodol ar gyfer Ysgol Ardudwy, Harlech.
  • angen diffinio'n eglur natur ieithyddol holl ysgolion uwchradd Gwynedd fel ei fod yn glir i'r holl randdeiliaid beth yw natur ieithyddol yr ysgolion.
  • sicrhau fod canlyniadau arholiadau Saesneg yr un mor dda â'r Gymraeg, gan mai hyn yn ei dro fydd yn 'sicrhau llwyddiant y polisi iaith'.
  • trafod gyda Phrifysgol Bangor y posibilrwydd o osod safon benodol i ddatblygu sgiliau yn Gymraeg a safon i ddatblygu sgiliau dwyieithog ar gyfer darpar athrawon.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai Ysgol Friars ym Mangor - gyda chefnogaeth y Cyngor - "adnabod cyfleoedd i wneud cynnydd pellach o'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm a bywyd yr ysgol."

'Tyllu'n ddwfn'

Fel rhan o ragair i'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y Grŵp Ymchwiliad Craffu, y Cynghorydd Alwyn Gruffydd: "Bu'n rhaid tyllu'n ddwfn o dan y wyneb i ganfod effaith y polisi iaith ar lawr gwlad mewn ysgolion unigol. Er y bu'n rhaid cyfyngu ein hymchwil i dair ardal benodol daeth patrwm i'r amlwg y credwn sy'n adlewyrchiad o'r sefyllfa'n draws sirol.

"Fel y dengys ein canfyddiadau mae dehongli'r polisi'n amrywio'n arw ac yn ddibynnol ar ddemograffi ieithyddol dalgylchoedd ysgolion yn ogystal ag o ran sêl athrawon a phrifathrawon unigol dros y Gymraeg. Ymddengys nad oes cysondeb nac ychwaith ddealltwriaeth cyffredinol o'r gofynion.

"O ganlyniad mae'r gweithgor wedi cynnig ugain o argymhellion y gobeithir fydd yn cael eu mabwysiadu ar fyrder. Cydnabyddir pwysigrwydd allweddol ein hysgolion i barhad y Gymraeg oddi fewn a thu allan i'w llibart - ond nid da lle gellir gwell!"