Abertawe allan o Gwpan Capital One ar ôl colli yn Hull

Hull v Abertawe Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Abertawe allan o Gwpan Capital One wedi iddyn nhw gael eu trechu o 1-0 yn erbyn Hull yn Stadiwm KC nos Fawrth.

Fe wnaeth yr ymwelwyr 10 newid i'r tîm wynebodd Everton ddydd Sadwrn, ac roedd ganddyn nhw ddigon o gyfleoedd i fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Fe beniodd Matt Grimes dros y trawst, fe lwyddodd Gylfi Sigurdsson i fethu rhwyd wag ac fe wnaeth Wayne Routledge fethu dau gyfle da.

Ond roedd gôl David Meyler ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau lle Hull yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd, wrth i'r tîm cartref edrych yn fwy sefydlog wedi'r egwyl.