Tân Llanelli: Rhyddhau pedwar heb gyhuddiad

Tân Llanelli Image copyright Jonathan Smith
Image caption Fe wnaeth fflamau ddifrodi rhannau o Eglwys y Parc ar 13 Awst

Mae pedwar person ifanc oedd ar fechnïaeth mewn cysylltiad â thân yn Llanelli wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Fe gafodd bum person eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol ar ôl i fflamau ddifrodi rhannau o Eglwys y Parc fis diwethaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y pedwar, rhwng 15 a 16 oed, wedi'u rhyddhau oherwydd "diffyg tystiolaeth".

Fe wnaeth y llu gadarnhau bod bachgen 15 oed yn parhau ar fechnïaeth.

Image caption Fe gafodd to'r adeilad ei ddinistrio yn y tân

Straeon perthnasol