Alwen yn galw

Alwen Williams Image copyright BT

Mae Alwen Williams newydd ddechrau ar ei swydd newydd yn gyfarwyddwr BT Cymru. Yn ferch fferm o ardal Llanrwst, mae'n sôn wrth Cymru Fyw am yr heriau o'i blaen a'i llwybr i'r brig.

Sut deimlad yw hi i gael eich penodi'n gyfarwyddwr BT Cymru?

Teimlad gwych i fod yn onest. Dwi wedi bod eisiau dod yn ôl i Gymru ers sbel. Dwi wedi bod yn gweithio mewn swyddi y tu allan i Gymru ers y deng mlynedd diwethaf, ac felly mae cael fy mhenodi'n gyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn gyfle gwych i mi.

Beth mae'r swydd yn ei olygu?

Arwain BT yng Nghymru. Dwi'n gweld bod dwy elfen bwysig i hynny: un elfen yw cynrhychioli Cymru fel cenedl o fewn BT, a'r llall yw cynrhychioli BT a gweithredoedd y cwmni yng Nghymru.

Beth yw'r her fwyaf i BT yng Nghymru?

Un o'r heriau mwyaf yw cario ymlaen i ddosbarthu gwasanaethau digidol a gwasanaethau 'broadband' cyflym i ardaloedd anodd i'w cyrraedd, a helpu i ddatblygu gwasanaethau i gwsmeriaid.

Rydyn ni'n clywed rhai yn cwyno bod y gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig yn gallu bod yn araf - oes arwydd fod pethe'n gwella?

Mae'r cynllun 'Superfast Cymru' yn barod wedi dod a broadband cyflym i dros 500,000 o fusnesau a chartrefi yng Nghymru, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu hynny erbyn y flwyddyn nesaf, a hefyd gyda'r datganiad yr wythnos hon ynglŷn â beth mae Openreach yn mynd i'w wneud. 'Byth dweud na' yw`r hyn mae Joe Garner wedi ei gyhoeddi, ac mae hynny'n golygu na ddylen ni byth ddweud na wrth ardaloedd anodd i'w cyrraedd chwaith.

Fe adawoch chi'r ysgol a mynd yn syth i fyd gwaith.Pam benderfynoch chi wneud hynny?

Ar y pryd, ro'n i wedi cael digon ar ddysgu a bod yn onest, a dwi'n meddwl, yn fy myd bach yn hunan, roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gwybod digon ar y pryd i fynd allan i fyd gwaith. Roedd gen i fwriad i fynd i goleg, ond ar ôl gweithio i BT am flwyddyn, doeddwn i ddim eisiau gadael, ac roeddwn i'n gweld dyfodol i mi fy hun o fewn y cwmni.

Mae llawer o bwyslais y dyddiau hyn ar barhau ym myd addysg ar ôl gadael ysgol. Fyddech chi'n dadlau nad dyna'r llwybr cywir i bawb?

Dwi ddim yn meddwl fod yna ateb cywir. Dwi'n meddwl ei fod o'n rhywbeth personol ofnadwy. Os ydy rhywun yn dewis gadael addysg, fel wnes i, mae mynd i fyd gwaith ar yr adeg yna yn rhoi cyfle i ddysgu mewn ffordd wahanol: dysgu sut i ymdrin â phobl, dysgu sut mae cwmnïau'n gweithredu. A dwi'n meddwl bod y ddau'n bosib. Dwi wedi gwneud gradd wrth weithio'n llawn amser, felly mae'r ddau'n bosib. Dwi'n meddwl ei fod e'n bwysig fod pobl yn gwneud y dewis cywir iddyn nhw'n bersonol.

Mae pwyslais hefyd ar roi mwy o gyfleoedd i fenywod i gyrraedd y brig. Sut brofiad ydych chi wedi ei gael wrth wneud hynny?

Dwi di cael profiad arbennig o dda i fod yn onest. Dwi'n teimlo bod yna fwy i'w wneud o ran cydraddoldeb rhywedd, nid yn unig o fewn BT ond o fewn cwmniau eraill hefyd. Dwi'n meddwl bod yr arwydd yma, fy mod i wedi cael fy mhenodi i'r swydd, yn arwydd positif a chefnogol ofnadwy. Dwi'n meddwl bod gan ferched cyn-gymaint os nad mwy i'w gynnig yn y swyddi uchel ma.

Ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi gorfod gweithio'n galetach i gyrraedd y brig?

Dwi'n meddwl bod angen cael llais cryf fel merch, yn enwedig mewn cwmnïau lle mae lot o ddynion yn gweithio, ac mae'n cymryd ychydig o ymarfer i gael hynny'n iawn. Dwi ddim yn teimlo bod y frwydr wedi bod yn un anodd. Dwi'n meddwl, os ydy cwmnïau yn edrych ar be mae unigolion yn ei gyflawni yn hytrach na phwy ydyn nhw, mae'r penderfyniad wedyn yn dod o hynny.

Beth fydde'ch cyngor chi i ferched sydd eisiau datblygu eu gyrfa?

Baswn i'n dweud nad oes dim rheswm o gwbl pam na all merched fod ar yr un lefel a dynion yn y maes, ac felly, byddwn i'n dweud, "Ewch amdani!"

Pa mor bwysig yw'r Gymraeg i chi?

Mae'n bwysig ofnadwy. Dyma fy wythnos gyntaf yn fy swydd newydd, a dwi wedi defnyddio fy Nghymraeg yn gyson drwy bob diwrnod yn fy ngwaith. Mae hynny'n brofiad newydd i mi, ar ôl bod yn gweithio yn Llundain dros y deng mlynedd diwetha. Mae'n teimlo fel dod adre, cael defnyddio fy Nghymraeg bob diwrnod, ac mae'n bwysig iawn i mi'n bersonol hefyd.

Mae Biwro Cymraeg BT yn mynd yn gryf ym Mangor, a bydda i'n mynd i Fangor wythnos nesa i'w gweld nhw. Dwi'n meddwl bod BT wedi ymroi i'r iaith Gymraeg ers pan wnes i gychwyn hefo BT ym 1996. Roedd hynny'n rhywbeth chwyldroadol i gwmni mor fawr, i roi biwro Cymraeg i drin a thrafod materion gyda cwmseiriad yn eu hiaith gyntaf, ac mae'n parhau i fod yn bwysig i BT wneud hynny.