Cynyddu teithiau awyr o Gaerdydd

Maes awyr Caerdydd

Bydd Cwmni Vueling yn cynnig teithiau awyr ychwanegol o faes awyr Gaerdydd i rai o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd yn 2016.

Mae'r cwmni o'r Swistir yn dweud eu bod yn ymateb i'r galw gan bobl Cymru.

Bydd 30,000 o seddi ychwanegol ar gael i Malaga, Alicante, Palma Mallorca a Barcelona.

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd: "Mae'n galonogol gweld un o'n cwmnïau hedfan mwyaf allweddol yn ymateb i anghenion bobl Cymru."