Cydnabyddiaeth arbennig i Amgueddfa Tŷ Weindio

Ty Weindio Image copyright Cyngor Caerffili

Mae amgueddfa Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd yn dathlu ar ôl ennill gwobr mewn seremoni i wobrwyo'r amgueddfeydd gorau i blant.

Cafodd y ganolfan gydnabyddiaeth am ei chyfraniad nodedig i'r gymuned leol.

Dyma'r tro cyntaf i unrhyw amgueddfa gael cydnabyddiaeth o'r fath.

Dywedodd Dea Birkett, Cyfarwyddwr 'Kids in Museums': "Roedd yr enwebiadau ar gyfer y Tŷ Weindio mor bwerus, roedd yn rhaid i ni gydnabod eu rhagoriaeth."