Angen ailystyried Mesur y Gymraeg medd Carwyn Jones

Carwyn Jones
Image caption Y Prif Weinidog gerbron y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ddydd Iau

Bydd angen ailystyried Mesur y Gymraeg 2011 ar ôl etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf "i weld beth y gellir ei wneud er mwyn iddo weithio'n fwy effeithiol", yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Cymunedau'r Cynulliad ddydd Iau, gofynnwyd iddo gan Gwyn Price AC i ymateb i sylwadau Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws yn Adroddiad Blynyddol 2014-15 ynghylch "pa mor weinyddol feichus yw rhannau o'r ddeddfwriaeth".

Ymatebodd Mr Jones, "Ni fyddwn yn anghytuno â hynny.

"Rwy'n meddwl bod yna elfennau o'r Mesur sy'n fwy anodd nag y mae angen iddynt fod, rhai y gellid eu symleiddio, rhai sy'n cyflwyno lefel o ymgynghori sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n synhwyrol".

'Dysgu'

Cafwyd holi cadarn gan y cyn-weinidog Alun Davies, a gyfeiriodd yn gyntaf at sylwadau gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mehefin "yn dweud ei bod yn treulio gormod o'i hamser yn trio perswadio gweinidogion a gweision sifil o'r angen i ystyried yr iaith pan maen nhw'n deddfu".

Ymatebodd Mr Jones, "Mae 'na bethau ry' ni wedi gorfod dysgu fel llywodraeth, mae hynny'n wir. Nawr mae asesiad impact yr iaith Gymraeg yn cael ei wneud ynglŷn â deddfau a pholisïau mewn ffordd oedd ddim yn digwydd pum mlynedd yn ôl.... Mae'n wir i ddweud bod rhaid i'r gweision sifil ddysgu hefyd pa mor ganolog yw'r iaith i waith y llywodraeth".

Atgoffwyd ef fwy nag unwaith gan Mr Davies bod y feirniadaeth dri mis yn ôl yn unig, felly "mae'n amlwg bod y dysgu yna ddim wedi bod yn llwyddiannus".

Fe wnaeth y prif weinidog gydnabod, "wel, mae rhaid inni ddysgu. Dyna pam mae comisiynydd 'da ni, er mwyn sicrhau os oes gwendidau ein bod yn delio gyda'r gwendidau yn gyflym. Mae'n dangos pa mor annibynnol y mae'r comisiynydd".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.