Pryderon am ddyfodol uned famolaeth Bangor

Ysbyty Gwynedd

Mae pryderon wedi eu codi am ddyfodol tymor hir gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae dogfen fewnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn son am y posibilrwydd y gallai'r Bwrdd israddio'r uned pan fydd canolfan gofal arbenigol yn cael ei sefydlu yn y gogledd.

Bydd Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig Isranbarthol yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ac mae rhai'n poeni am y goblygiadau i'r ddwy uned famolaeth arall yn y rhanbarth ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yn ôl ymgyrchwyr mae dogfen fewnol, sydd wedi cael ei gweld gan y BBC, yn cadarnhau eu hofnau.

'Man cychwyn'

Cafodd y ddogfen - 'Modelau Gwasanaeth Posib i Obstetreg a Gynecoleg' - ei pharatoi gan uwch swyddogion yr unedau mamolaeth, gynecoleg a newydd-anedig, ac mae'n codi'r posibilrwydd y gallai nifer y babanod sy'n cael eu geni yn Ysbyty Gwynedd ddisgyn cyn ised â 500 y flwyddyn.

Fe ddywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y ddogfen "ond yn fan cychwyn ar gyfer adolygiad manwl iawn o'r holl ddewisiadau posib".

Ar hyn o bryd mae tua 2,000 o fabanod yn cael eu geni ym Mangor bob blwyddyn, 2,000 yn Ysbyty Maelor Wrecsam a 3,000 yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Mae'r ddogfen yn ystyried tri dewis pan fydd yr uned newydd ym Modelwyddan wedi'i sefydlu:

  1. Nifer y babanod sy'n cael eu geni ymhob ysbyty yn aros fwy neu lai yr un fath ond gyda genedigaethau risg uchel yn mynd i Lan Clwyd - caiff hwn ei ddisgrifio fel 'y dewis sy'n debyg o fod yn fwyaf poblogaidd gyda phoblogaeth y gogledd';
  2. Canolbwyntio ar ddau brif safle - 3,000 o enedigaethau a rhai risg uchel yn aros yng Nglan Clwyd, cynyddu'r nifer yn Wrecsam i 3,000 a haneru'r nifer ym Mangor i 1,000;
  3. 'Symud yn agosach at gael un uned fawr i'r gogledd' - cynyddu nifer y genedigaethau yng Nglan Clwyd i 5,000 (gan gynnwys rhai risg uchel), lleihau'r nifer yn Wrecsam i 1,500 a lleihau'r nifer ym Mangor i 500.

Wrth ystyried y ddau ddewis olaf mae'r ddogfen yn gofyn: "A oes modd cadw Ysbyty Gwynedd fel uned weithredol gyda chyn lleied o enedigaethau?"

Image caption Mae nifer wedi protestio yn y gorffennol am newidiadau i wasanaethau mamolaeth yn y gogledd

'Dim synnwyr'

Dywedodd y Cynghorydd Siân Gwenllïan o Blaid Cymru, sydd ar Gyngor Gwynedd:

"Os ydych chi'n meddwl am fenywod sy'n teithio o Ben Llyn, gogledd Ynys Môn, i Fangor mae hynny'n awr o daith ac fe fyddai hynny ynddo'i hun yn syfrdanol i lawer.

"Os ydych wedyn yn ychwanegu 35 milltir arall ar hyd yr A55 - nid y ffordd fwyaf dibynadwy... fedrwch chi ddychmygu bod yn fenyw feichiog ac efallai'n un gyda risg uchel yn sownd mewn traffig?

"Does dim synnwyr yn y peth, ond mae'n rhaid i ni gymryd hynny o ddifri oherwydd mae hynny lawr ar ddu a gwyn... mae'n cael ei ystyried."

'Adolygiad manwl iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r Bwrdd yn defnyddio dau ddull o ddatblygu argymhellion tymor hir i ddyfodol gwasanaethau obstetreg a gynacoleg yng ngogledd Cymru.

"Ym mis Hydref yn gyntaf, bydd Coleg Brenhinol Obstetryddion a Gynecolegwyr yn gyrru tîm arbenigol i weithio gyda staff meddygol, bydwragedd, rheolwyr a defnyddwyr i ddatblygu modelau cynaliadwy a realistig.

"Yn ail, ac i gefnogi'r gwaith yma, mae'r Gwasanaethau Mamolaeth, Gynacoleg a Newydd-anedig wedi cynnal gweithdai i ystyried rhai dewisiadau, gan ddatblygu'r syniadau yn y ddogfen dan sylw.

"Mae'r ddogfen yma ond yn fan cychwyn i'r hyn fydd yn adolygiad manwl iawn o bob dewis posib.

"Mae'n wybyddus bod cynllunio wedi dechrau ar gyfer yr Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig Isranbarthol yng Nglan Clwyd fydd yn agor yn 2018.

"Mae'n hanfodol fod gennym wasanaethau ar gyfer poblogaeth gogledd Cymru ac mae ystod eang o bosibiliadau'n cael eu hystyried gyda'r uned newydd yn ganolog.

"Bydd gwaith y Coleg Brenhinol yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2015 pan fydd y Bwrdd yn derbyn argymhellion manwl am y dewisiadau cynaliadwy tymor hir i wasanaethau mamolaeth a gynecolegol."

Straeon perthnasol